Mae Warren Gatland, hyfforddwr Cymru, wedi enwi ei garfan ar gyfer taith yr haf i wynebu De Affrica a’r Ariannin.
Fe fydd Cymru’n dechrau eu taith yn Washington gan wynebu De Affrica cyn symud ymlaen ar gyfer dwy gêm brawf yn erbyn yr Ariannin yn Ne America.
Mae un-deg-tri Scarlet wedi eu henwi yng ngharfan Cymru gan gynnwys yr asgellwr Tom Prydie, a chawaraeodd ei gêm rhyngwladol diwethaf yn 2013 yn Siapan.
Dychwelodd Prydie i’r cae nos Sadwrn yn y gêm go-gynderfynol yn erbyn y Toyota Cheetahs ar ôl dioddef anaf i’w bigwrn ym mis Chwefror. Sgoriodd ei bedwerydd cais o’r tymor.
Yn ymuno a’r asgellwr y mae chwech aelod o’r olwyr yn Gareth Davies, Aled Davies, Rhys Patchell, Scott Williams, Hadleigh Parkes a Steff Evans.
Y chwech blaenwr o’r Scarlets sydd wedi eu cynnwys yw Rob Evans, Wyn Jones, Ryan Elias, Samson Lee, Aaron Shingler a James Davies.
Mae Ken Owens a Leigh Halfpenny ymhlith grwp o chwaraewyr profiadol na fydd yn teithio yr haf yma yn dilyn llwyth gwaith mawr gan gynnwys Taith y Llewod yn 2017.
Mae’r mewnwr Sam Hidalgo-Clyne, a fydd yn ymuno â’r rhanbarth ar ddiwedd yr haf o Gaeredin, wedi ei enwi yng ngharfan yr Alban ar gyfer eu taith nhw i’r Americas.
Carfan Cymru – Taith yr Haf 2018
Blaenwyr:
Rob Evans (Scarlets) (25 Caps)
Wyn Jones (Scarlets) (8 Caps)
Nicky Smith (Gweilch) (18 Caps)
Elliot Dee (Dreigiau) (7 Caps)
Ryan Elias (Scarlets) (2 Caps)
Tomas Francis (Exeter Chiefs) (31 Caps)
Samson Lee (Scarlets) (38 Caps)
Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (2 Caps)
Adam Beard (Ospreys) (2 Caps)
Bradley Davies (Ospreys) (62 Caps)
Seb Davies (Gleision Caerdydds) (4 Caps)
Luke Charteris (Bath) (74 Caps)
Cory Hill (Dreigiau) (15 Caps) (Co-Captain)
James Davies (Scarlets) (1 Cap)
Ellis Jenkins (Gleision Caerdydd) (6 Caps) (Co-Captain)
Ross Moriarty (Gloucester) (20 Caps)
Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (11 Caps)
Aaron Shingler (Scarlets) (17 Caps)`
Olwyr:
Aled Davies (Scarlets) (8 Caps)
Gareth Davies (Scarlets) (32 Caps)
Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (*Uncapped)
Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd) (15 Caps)
Rhys Patchell (Scarlets) (8 Caps)
Hadleigh Parkes (Scarlets) (55 Caps)
Owen Watkin (Gweilch) (4 Caps)
Scott Williams (Scarlets) (55 Caps)
Josh Adams (Worcester Warriors) (2 Caps)
Hallam Amos (Dreigiaus) (15 Caps)
Steff Evans (Scarlets) (9 Caps)
George North (Northampton Saints) (73 Caps)
Tom Prydie (Scarlets) (7 Caps)
Gemau Taith yr Haf Cymru 2018;
Springboks v Cymru, Sadwrn 2il Mehefin, Washington D.C
Yr Ariannin v Cymru, Sadwrn 9fed Mehefin, San Juan
Yr Ariannin v Cymru, Sadwrn 16eg Mehefin, Santa Fe