Mae Aelodaeth Tymor Scarlets nawr ar werth ar gyfer tymor 22-23 wrth i ni ddathlu 150 mlynedd o dreftadaeth.
Bydd pecynnau ar gael am bris gostyngedig tan Fehefin 20 felly peidiwch â cholli mas wrth i ni baratoi am dymor arbennig yn y Parc.
Gwyliwch ein fideo i lansio aelodaeth nawr sydd yn cynnwys aelodau presennol o’r carfan, ein prif hyfforddwr Dwayne Peel, ein cefnogwyr angerddol a chapten 1992 Rupert Moon.
Mae’n sicr o godi emosiwn!
#YmaOHyd