Mae’r Scarlets yn dathlu 150 mlynedd o’i hanes balch eleni ac fel rhan o’r dathliadau rydym yn edrych yn ôl ar digwyddiadau a gemau nodweddol. Gyda Ulster yn ymweld â’r Parc ar Ddydd Sadwrn rydym yn troi’r cloc nôl i Fai 14, 2004, pan wnaeth y dynion o’r Gorllewin Gwyllt trechu’r Gwyddelod i ennill y Gynghrair Geltaidd am y tro cyntaf.
Fe ddaeth y tymor i’w ben ar grescendo ym Mharc y Strade yn 2004 wrth i’r ddau dîm ar frig herio’i gilydd yn y rownd derfynol yn Llanelli.
Ar ôl 24 rownd ffyrnig, roedd un gêm ar ôl gyda’r enillwyr yn hawlio’r goron. Roedd siawns i dîm Cymraeg i godi’r cwpan am y tro cyntaf?
Roedd tîm Llanelli, hyfforddwyd gan Gareth Jenkins a Leigh Davies fel capten, wedi rhoi perfformiadau cryf trwy’r tymor, gyda dechreuad da yn y rownd gyntaf trwy faeddu Dreigiau Cas Gwent o 35 pwynt i 11.
Ar hyd y tymor roedd buddugoliaethau yn erbyn Munster yn Thomond Park, buddugoliaeth Dydd Calan yn erbyn Gweilch Abertawe-Castell Nedd a hefyd sgôr hanesyddol 51-20 yn erbyn Leinster yn Strade.
Roedd Parc y Strade yn orlawn ar gyfer y gêm fawr ar nos Wener, gêm a oedd hefyd yn ffarwelio un o sêr y cyfnod Stephen Jones a oedd yn ymuno â Montferrand yn Ffrainc.
Llwyddodd Stephen i ennill 18 pwynt i’w dîm gan gynorthwyo ei gydchwaraewr Matthew Watkins i sgori’r cais buddugol i hala’r dorf yn wyllt ym Mharc y Strade.
Yn gyfartal 9-9 ar hanner amser – tri cic gosb wrth Jones a thri o droed y chwaraewr rhyngwladol David Humphreys – ond cic gan Jones a’r cais gan Watkins seliodd y fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Derbyniodd Jones cymeradwyeth enfawr wrth iddo adael y cae dwy funud cyn y chwiban olad ac er i eilydd Munster Neil McMillan croesi yn y munudau olaf, roedd y parti ym Mharc y Strade yn barod wedi cychwyn.
Llanelli Scarlets 23 Ulster 16
Llanelli Scarlets: Barry Davies; Garan Evans, Mark Taylor, Matthew Watkins, Salesi Finau; Stephen Jones, Mike Phillips; Iestyn Thomas, Robin McBryde, John Thiel, Vernon Cooper, Chris Wyatt, David Hodges, Simon Easterby, Scott Quinnell.
Eilyddion: John Davies, Aled Gravelle, Bryn Griffiths, Dafydd Jones, Dale Burn, Gareth Bowen, Leigh Davies.
Ulster: Cunningham; S Young, Mallon, Stewart, Topping; Humphreys, Doak; S Best, Sexton, Moore, Mustchin, Frost, Ward, N Best, Wilson.
Eilyddion: Shields, McCormack, Barker, McMillan, Campbell, Larkin, Wallace.
Dyfarnwr: Rob Dickson (Yr Alban).