Cytundeb newydd i Eddie James!

Rob LloydNewyddion

Y chwaraewr rhyngwladol Eddie James, a ddatblygodd trwy system Academi’r Scarlets, yw’r diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Yn barod mae’r Scarlets wedi cyhoeddi cytundebau newydd i Macs Page, Tomi Lewis a Joe Roberts, tra bod y chwaraewr rhyngwladol Joe Hawkins yn ymuno â’r garfan o Exeter Chiefs yn yr haf.

Chwaraeodd James ei rygbi iau gyda Chwins Caerfyrddin ac aeth ymlaen i serennu yng nghynghrair ysgolion a cholegau i Goleg Sir Gâr cyn ymddangos i dimau gradd oedran y Scarlets a mynd ymlaen i dderbyn capiau D18 a D20 Cymru.

Yn sefyll yn 6m a 3tr fe wnaeth y cawr o ganolwr ymddangos am y tro cyntaf i’r Scarlets ar ddechrau’r ymgyrch 2022-23 gan sgori gais yn ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Caeredin ym Mharc y Scarlets.

Yn gludwr deinamig sy’n ysgafn ar ei draed, mae perfformiadau James yng nghrys Scarlets wedi ei weld yn ennill sawl cap yng nghrys Cymru hefyd, gyda’i ymddangosiad diweddaraf yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Yn barod wedi gwneud 37 ymddangosiad i’r Scarlets mae Eddie wedi’i brofi’n allweddol i dîm Dwayne Peel.

Dywedodd Eddie: “Roedd dad a fi arfer dod i wylio’r Scarlets, felly mae datblygu trwy’r system yma gyda fy ffrindiau, a bod yn rhan o’r academi a nawr y garfan hon wedi bod yn wych.

“Mae gyda ni tîm ifanc yma, olwyr cyffrous i wylio, mae’r dyfodol i weld yn ddisglair.

“Rydym yn adeiladu fel carfan. Mae datblygiadau wedi mynd yn ei flaen ers tymor diwethaf ac ar ôl cychwyn y tymor yn dda, gobeithiwn fe allwn orffen ar nodyn uchel.

“Mae gyda ni gêm enfawr i chwarae ar ddydd Sadwrn yn erbyn y Gweilch. Bydd torf fawr yma, gyda llawer o docynnau wedi’u gwerthu’n barod mae’n debyg bydd yr awyrgylch yn dda. Mae’r bois i gyd yn edrych ymlaen a gobeithio fe allwn roi perfformiad mawr i’r cefnogwyr sydd wedi bod yn wych trwy gydol y tymor i ni.”

Dywedodd Dwayne Peel: “mae’n rhwydd anghofio bod Eddie ond yn 22 oed. Mae’n chwaraewr penigamp, yn gadarn, gyda dwylo da ac wedi sefyll mas yn ei berfformiadau ar sawl achlysur dros y tymhorau.

“Fel sawl chwaraewr yma, mae Eddie wedi’i fagu yn y rhanbarth, wedi datblygu yn y system yma ac wedi graddio o’r Academi i’r garfan hyn.

“Y peth da yw, mae dal llawer i ddod wrth Eddie. Yn barod wedi bod yn rhan o’r garfan ryngwladol ac rwy’n siŵr fydd yn rhan o’r cynlluniau hirdymor yna. Mae’n chwaraewr gyda dyfodol disglair ac i ni wrth ein bodd ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd.

“Rydym yn paratoi carfan gyffrous ifanc yma ac mae Eddie yn rhan allweddol o hynny.”