Mae Academi’r Scarlets wedi arwyddo dau chwaraewr lleol newydd.
Y bachwr Lewis Morgan a chanolwr Eddie James sydd yn hyfforddi gyda’r academi ar hyn o bryd ym Mharc y Scarlets ac yn cael eu gweld fel chwaraewyr disglair y dyfodol.
Lewis Morgan
Mae Lewis wedi sefyll allan fel chwaraewr ers iddo ymuno a’r rhaglen d16. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Taf, fe chwaraeodd i dîm iau Dinbych y Pysgod. Cafodd tymor gwych gyda Choleg Sir Gar a’r Scarlets d18, ac o ganlyniad fe gafodd ei dderbyn i garfan d18 Cymru. Mae’r bachwr 17 oed, sy’n 178cm mewn taldra ac yn pwyso’n 111kg, hefyd wedi ei ddewis i fod yn gapten ar Goleg Sir Gar.
Dywedodd hyfforddwr sgiliau’r academi Emyr Phillips “Mae gan Lewis yn chwaraewr corfforol iawn am ei oedran. Mae’n gariwr pêl dda, ac yn amddiffynnwr ymosodol. Mae wedi dangos ymrwymiad mawr ers ymuno’r academi, ac wedi ei wobrwyo gyda’r gapteniaeth yng ngholeg Sir Gar.
Eddie James
Roedd Eddie yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin a symudodd i Goleg Sir Gar lle gynrychiolodd y coleg yng Nghynghrair Colegau Cymru d18. Chwaraeodd rygbi iau ac ieuenctid i glwb rygbi Cwins Caerfyrddin ac fe gynrychiolodd Ysgolion Caerfyrddin d15. Roedd yn chwaraewr blaenllaw yng nghynghrair y colegau ac yn sefyll allan gyda’i berfformiadau i’r Scarlets d18.
Cynrychiolodd Eddie ei wlad yn y tîm d18 yn erbyn yr Alban cyn i’r clo cyntaf cychwyn ac yn ddisgwyliedig iddo dderbyn mwy o gapiau rhyngwladol cyn i’r tymor gael ei dorri’n fyr.
Dywedodd hyfforddwr sgiliau’r academi Paul Fisher “mae Eddie yn ganolwr corfforol sy’n 193cm mewn taldra ac yn pwyso 103kg felly mae ganddo’r gallu i gario dros y llinell fantais. Yn gyn-faswr, mae ganddo’r gallu i basio o’r ddwy law yn fanwl at ei darged, ac yn gallu cicio’r bel yn bell. Gyda’i maint trawiadol, mae wedi datblygu’n gorfforol ac yn gallu amddiffyn, sydd yn creu presenoldeb yng nghanol cae.”