Mae canolfan hyfforddi dan-do Parc y Scarlets, a chyfeirir ato’n gyfeillgar fel y ‘Barn’, yn ofod amlbwrpas a ddefnyddir gan lawer ac fe ddatgelwyd ei enw newydd y penwythnos diwethaf!
Dadorchuddiwyd Arena Juno Moneta Group yn swyddogol prynhawn Sadwrn diwethaf cyn i’r drysau agor i Bentref y Cefnogwyr wrth i’r Scarlets groesawu Leinster i Barc y Scarlets yn y Guinness PRO14.
Mae’r ganolfan yn gartref i gae 3G yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth ar y llawr cyntaf. Mae’n cael ei ddefnyddio gan y Scarlets, Academi’r Scarlets, clybiau bwydo’r rhanbarth, ysgolion a chlybiau rygbi lleol yn ogystal â llond lle o sefydliadau chwaraeon o’r dalgylch.
Yn ogystal a bod yn ofod arbennig ar gyfer chwaraeon o bob math mae Arena Juno Moneta group hefyd yn gallu llwyfannu arddangosfeydd yn ogystal â digwyddiadau a seremonïau.
Mae ein prif noddwr, Juno Moneta Group, yn deulu o gwmnîau sydd â chynllunio ariannol wrth wraidd eu busnes. Mae eu hamrywaeth o wasanaethau proffesiynol yn eang ac yn amrywiol oherwydd rhwydwaith cryf o bartneriaid proffesiynol a strategol a adeiladwyd dros y bum mlynedd diwethaf. Y ffocws gyda Juno Moneta yw gwarchod cleientiaid trwy ymagwedd annibynnol ac arloesol.
Dywedodd Louise O’Halloran, Cadeirydd a Sefydlydd Juno Moneta Group; “Mae ein cleientiaid wrth wraidd popeth a wnawn fel cwmni ac o’r cyfarfodydd cyntaf gyda’r Scarlets roeddem yn teimlo bod eu gweledigaeth yn cyd-fynd yn agos â ni.”
Am wybodaeth pellach am ein prif noddwr cit Juno Moneta Group ewch i www.junomonetagroup.com
Am wybodaeth pellach am logi Arena Juno Moneta Group ebostiwch [email protected]