Fe all y Scarlets cadarnhau newidiadau i’r grŵp hyfforddi o Ddydd Llun, y 12fed o Chwefror.
Bydd y prif hyfforddwr Dwayne Peel yn arwain ar yr ymosod gyda Jared Payne yn newid i Hyfforddwr Amddiffyn wrth barhau gyda’r olwyr ac ymosod.
Mae Albert van den Berg (Blaenwyr) ac Emyr Phillips (Sgrym ac Ardal y dacl) yn parhau yn eu rôl.
Mae Gareth Williams yn ystyried rôl gydag Academi’r Scarlets a’r llwybrau datblygu.
Bydd gêm nesaf y Scarlets yn erbyn Connacht yn Galway yn rownd 11 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wythnos i Ddydd Sadwrn.