Y mewnwr Archie Hughes fydd yn arwain y Scarlets i mewn i’r gêm gyfeillgar yn erbyn Leicester Tigers yn Mattioli Woods Welford Road (15:00).
Bydd Hughes yn gapten ar ochr sydd yn dangos tri enw ar frig ymddangosiad cyntaf – chwaraewyr newydd y Scarlets Blair Murray, Marnus van der Merwe a Max Douglas.
Murray sy’n cychwyn ar yr asgell chwith gydag Ellis Mee, a wnaeth ymddangos yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Cwins penwythnos diwethaf, fydd ar y dde. Chwaraewr rhyngwladol Cymru Tom Rogers sydd wedi’i enwi fel cefnwr.
Macs Page a chap newydd Cymru Eddie James sydd yn cydweithio yng nghanol cae, wrth i Ioan Lloyd gael ei enwi’n bartner i Hughes fel ein haneri.
Yn y rheng flaen, Sam O’Connor sydd yn derbyn crys rhif 1, wrth ochr van der Merwe a Wainwright.
Jac Price fydd wrth ochr Douglas yn yr ail reng, wrth i Jarrod Taylor, Dan Davis a Vaea Fifita cwblhau’r rheng ôl.
Bachwr Cymru Ryan Elias sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion ar fainc sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr ifanc a chyffrous.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’r bois wedi gweithio’n galed dros yr haf ac mae hyn yn gyfle iddyn nhw i ddangos y gwaith yna ar y cae wrth i ni edrych at gychwyn y tymor yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Byddwn yn defnyddio’r pythefnos nesaf i integreiddio’r garfan a dwi’n edrych ymlaen at chwarae tîm o safon uchel, yn dechrau wythnos yma yn Welford Road.
Ar y penderfyniad i enwi’r chwaraewr 21 oed Archie Hughes yn gapten. ychwanegodd Peel: “Mae Archie yn chwaraewr rydym am ddatblygu o fewn y grŵp arwain ac felly mi fydd hi’n gyffrous i’w weld yn arwain y tîm.”
Tim y Scarlets i chwarae Leicester Tigers (Mattioli Woods Welford Road; 15:00)
15 Tom Rogers; 14 Ellis Mee, 13 Macs Page, 12 Eddie James, 11 Blair Murray; 10 Ioan Lloyd, 9 Archie Hughes (capt); 1 Sam O’Connor, 2 Marnus van der Merwe, 3 Sam Wainwright, 4 Jac Price, 5 Max Douglas, 6 Jarrod Taylor, 7 Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Jamie Hughes, 18 Gabe Hawley, 19 Will Evans, 20 Ben Williams, 21 Carwyn Tuipulotu, 22 Will Plessis, 23 Efan Jones, 24 Charlie Titcombe, 25 Gabe McDonald, 26 Jac Davies, 25 Iori Badham