Mewnwr y Scarlets Archie Hughes sydd yn dechrau ei drydedd gêm yn olynol i Gymru wrth i’r tîm D20 gwynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Byd yn Stadiwm Athlone ar Ddydd Mawrth (Yn fyw ar S4C, 2:30yp DU).
Llwyddodd Hughes i groesi’r llinell gais yn ystod ei berfformiad diwethaf yn erbyn Japan ac wedi’i enwi eto yn y garfan i herio’r pencampwyr presennol. Prop y Scarlets Josh Morse sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.
Mae’r prif hyfforddwr Mark Jones wedi enwi pum newid i’r tîm ar gyfer gêm bwysig ym mhwll A.
Ond un newid sydd ymysg yr olwyr wrth i asgellwr y Gweilch Tom Florence derbyn ei ddechreuad cyntaf yn yr ymgyrch ar ôl sgori yn erbyn Japan fel eilydd hanner amser. Mae Tom yn cymryd lle ei gydchwaraewr rhanbarthol Llien Morgan.
Prop pen tynn y Gweilch Kian Hire a blaenasgellwr Harlequins Seb Driscoll sydd yn cychwyn am y tro cyntaf yng nghrys Cymru ar ôl iddyn nhw serennu fel eilyddion hanner amser yn erbyn Japan. Mae’r ddau yn cymeyd lle Louis Fletcher a Lucas De La Rua. Bachwr y Dreigiau Sam Scarfe sydd wedi’i enwi yn lle Lewis Lloyd sydd wedi’i enwi ar y fainc wrth i chwaraewr ail reng y Gweilch Liam Edwards dychwelyd yn lle Evan Hill.
“Mae’n bwysig i ddilyn cynllun y gêm, os ydyn yn gywir ar hynny byddwn yn gallu rhoi cystadleuaeth da ymlaen,” dywedodd Jones.
“A dyna’r her i ni. Mae rhaid i ni rhoi ein perfformiad gorau ar y cae fel y wnaethom yn erbyn Japan ac ar adegau yn erbyn Seland Newydd.
“Mae’r amodau yn edrych yn sychach sydd yn addas i’n gêm ni ac yn gryfder i’n chwarae – mae’n bwysig wedyn i’r bois i ymrwymo i hynny a rhoi eu gorau glas i’r perfformiad.
“Does dim pwysau ar y gêm yma i ni. Bydd angen 80 munud o ydrech arnom yn erbyn y tîm Ffrengig yma – mae ganddyn nhw carfan anhygoel a chymaint o dalent, ond mae hyn yn gyfle arbennig i ni.”
Cymru D20 v Ffrainc D20, Dydd Mawrth, Gorffennaf 4, Stadiwm Athlone, CG 3.30yp (DU), S4C
15 Cameron Winnett (Cardiff Rugby); 14 Tom Florence (Ospreys), 13 Louie Hennessey (Bath Rugby), 12 Bryn Bradley (Harlequins), 11 Harri Houston (Ospreys); 10 Dan Edwards (Ospreys), 9 Archie Hughes (Scarlets); 1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dragons RFC), 2 Sam Scarfe (Dragons RFC), 3 Kian Hire (Ospreys), 4 Liam Edwards (Ospreys), 5 Jonny Green (Harlequins), 6 Ryan Woodman (Dragons RFC – Capt), 7 Seb Driscoll (Harlequins), 8 Morgan Morse (Ospreys).
Eilyddion: 16 Lewis Lloyd (Ospreys), 17 Josh Morse (Scarlets), 18 Louis Fletcher (Ospreys), 19 Mackenzie Martin (Cardiff Rugby), 20 Gwilym Evans (Cardiff Rugby). 21 Harri Williams (Ampthill), 22 Harri Wiilde (Cardiff Rugby), 23 Joe Westwood (Dragons RFC).