Y mewnwr Archie Hughes ydy’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo i Academi’r Scarlets.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod, mae’r mewnwr deunaw oed wedi astudio yng Ngholeg Llanymddyfri ers yn 14 oed ac fe chwaraeodd rygbi ieuenctid i Glwb Rygbi Dinbych y Pysgod.
Mae Archie wedi bod yn rhan o lwybr datblygu’r Scarlets ers cael ei ddewis i’r Dewar Shield D15 i Fynydd Mawr ac Ysgolion Dinefwr ac fe aeth ymlaen i gynrychioli rygbi rhanbarthol i Scarlets D16 a D18.
Hydref yma, bydd Archie yn ymuno â Phrifysgol Abertawe, i gyfuno ei astudiaethau a’i datblygiad rygbi.
Dywedodd Paul Fisher, hyfforddwr sgiliau Academi’r Scarlets: “Mae Archie wedi cystadlu ymysg grŵp da o fewnwyr, ond mae ganddo’r gallu i berfformio’n gyson ar lefel coleg a gradd oedran sydd wedi’i arwain at ennill cyfle i arwyddo cytundeb Academi.
“Mae’n chwaraewr symudol iawn sydd yn gallu gweld o flaen y gêm. Mae ganddo sgiliau technegol ardderchog ac mae wedi dangos ei botensial i ddatblygu ymhellach.
“Yn ystod yr amser byr gyda ni, mae Archie yn barod wedi derbyn gwahoddiad i ymarfer gyda’r garfan hŷn tra oedd y chwaraewr i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol ac roedd yr hyfforddwyr hŷn yn hapus iawn gyda’i gynnydd a’i datblygiad.”