Fe fydd gemau Scarlets yn y Guinness PRO14 yn cael eu darlledu ar Premier Sports y tymor nesaf yn dilyn cyhoeddiad gan PRO14 Rugby heddiw.
I weld manylion llawn y cyhoeddiad cliciwch yma
Wrth sôn am y newyddion arloesol, dywedodd Phil Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Scarlets; “Cymerodd y Guinness PRO14 gam enfawr ymlaen y tymor diwethaf gyda chyflwyniad dau dîm o Dde Affrica i’r bencampwriaeth a fformat y Gynhadledd ar ei newydd wedd.
“Rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno bod y tymor hwn wedi bod yn dymor pencampwriaeth gwefreiddiol o rygbi ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o gemau ail gyfle cyntaf y Gyfres Derfynol, yn erbyn y Cheetahs, ddydd Sadwrn.
“Mae symud Rygbi PRO14 i Premier Sports yn arbennig o gyffrous gyda mwy o rygbi PRO14 ar gael i fwy o bobl ledled y DU yn amlach nag erioed o’r blaen!
“Rydyn ni’n credu ei fod yn gynnyrch gwych ac yn un sydd yn bendant yn cyfleu dychymyg hen ac ifanc, a chefnogwyr rygbi traddodiadol a newydd. Byddem yn gobeithio y bydd argaeledd PRO14 ar Premier Sports ac am ddim i Freesports awyr yn gweld mwy o ddiddordeb a gwerthu tocynnau ymlaen. ”