Blade Thomson i dychwelyd am ornest yn erbyn Benetton

Kieran LewisNewyddion

Mae Blade Thomson chwaraewr rhyngwladol yr Alban yn dychwelyd i ochr y Scarlets ar gyfer gwrthdaro rownd chwech Guinness PRO14 yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets (7.35yh).

Bu Thomson yn rhan o her Cwpan y Byd yr Albanwyr yn Japan, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor penwythnos yma gan ddangos pedwar newid o’r ochr a gurodd Toyota Cheetahs yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae’r cyn-chwaraewr i’r Hurricanes yn cymryd lle Uzair Cassiem yn Rhif 8, sy’n disgyn i’r fainc. Mewn man arall yn y pecyn mae Taylor Davies yn dod i mewn am Marc Jones yn safle’r bachwr.

Mae Davies yn pacio i lawr mewn yn y rheng flaen sy’n cynnwys Phil Price a Samson Lee. Mae Lewis Rawlins a Steve Cummins unwaith eto yn cael y nod yn yr ail reng.

Y tu ôl i’r sgrym, mae Johnny McNicholl wedi adfer o’r curiad ar ei bigwrn a gorfododd i adael y cae yn erbyn y Cheetahs ac mae’n dechrau yn safle 15 gyda Steff Evans a Corey Baldwin yn cipio’r safleoedd ar yr asgell.

Mae Baldwin yn cymryd lle Ryan Conbeer yn llydan i wneud ei ymddangosiad cyntaf PRO14 yn yr ymgyrch.

Yng nghanol y cae, mae Paul Asquith wedi gwella o’r anaf i’w wyneb a gafodd yn erbyn Zebre yn rownd tri ac mae’n cael ei aduno gyda’r gwibiwr Steff Hughes yn y canol, tra bod Dan Jones a Kieran Hardy yn parhau â’u partneriaeth hanner cefn.

Bydd Prop Werner Kruger yn gwneud ei ganfed ymddangosiad i’r Scarlets os daw oddi ar y fainc.

Bydd Kruger, a ymunodd â’r Scarlets yn 2016, yn cwblhau hat-tric rhyfeddol o ganrifoedd mewn rygbi proffesiynol ar ôl chwarae mwy na chan gwaith i ochr Rygbi’r Bulls a’r Blue Bulls yng Nghwpan Currie.

Gallai Ryan Lamb sydd wedi gael eu arwyddo dros dro, hefyd wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm hŷn y Scarlets. Mae cyn chwaraewr rhyngwladol Lloegr wedi cael ei enwi ymhlith yr eilyddion am y tro cyntaf.

Scarlets (v Benetton, Sadwrn Tachwedd 9fed; cic gyntaf 7.35yh)

15 Johnny McNicholl; 14 Corey Baldwin, 13 Steff Hughes (c), 12 Paul Asquith, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Phil Price, 2 Taylor Davies, 3 Samson Lee, 4 Lewis Rawlins, 5 Steve Cummins, 6 Ed Kennedy, 7 Josh Macleod, 8 Blade Thomson.

Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Rob Evans, 18 Werner Kruger, 19 Juandre Kruger, 20 Uzair Cassiem, 21 Dane Blacker, 22 Ryan Lamb, 23 Kieron Fonotia.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Tom Prydie (hamstring), Joe Roberts (pen-glin), Dan Davis (troed)