Mae’r Scarlets yn falch i gyhoeddi bydd Taine Plumtree yn ymuno â’r Scarlets o flaen dechreuad y tymor 2023-24.
Wedi’i eni yn Abertawe, mae’r chwaraewr rheng ôl 23 oed i ddychwelyd i Gymru wythnos yma ar ôl cadarnhau’r symud o Seland Newydd lle mae Plumtree wedi chwarae Super Rugby i dîm y Blues yn Wellington.
Mae Taine yn fab i John Plumtree, sef cyn-brif hyfforddwr Abertawe a hyfforddwr cynorthwyol y Crysau Duon ac Iwerddon.
Cafodd ei ddewis ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd D20 yn 2019 – gan chwarae i’r Baby Blacks yn erbyn Seland Newydd yn nhwrnamaint yn yr Ariannin – gyda’i yrfa hŷn yn cychwyn gyda Wellington yng nghystadleuaeth daleithiol Seland Newydd, Cwpan 10 Mitre.
Yn flaenwr athletaidd a rhedwr deinameg, gwnaeth Plumtree ei ymddangosiad cyntaf Super Rugby i’r Blues yn 2021 a pharhawyd i serennu i Wellington, gan sgori hat-tric o geisiau yng ngêm yn erbyn Northland.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Taine yn flaenwr athletig, amryddawn sydd gyda’r gallu i chwarae ar draws y rheng ôl. O beth rydym wedi gweld o’i chwarae, mae Taine wedi sefyll allan i ni wrth chwarae i’r Blues yn Super Rugby.
“Ganddo lawer o botensial fel chwaraewr ac rydym yn edrych ymlaen ato i ymuno â’r grŵp ifanc o chwaraewyr sydd gyda ni yma.
“Rwy’n siŵr fydd Taine yn addasu’n dda i’r steil o chwarae sydd gyda ni yma ac rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu i’r Parc o flaen y tymor newydd.”
Plumtree ydy’r chwaraewr diweddaraf i ymuno â’r Scarlets o flaen ymgyrch 2023-24 ac yn dilyn cyhoeddiadau Ioan Lloyd, Tomi Lewis, Alex Craig, Teddy Leatherbarrow, Charlie Titcombe ac Efan Jones.
TAINE PLUMTREE
Oedran: 23
Safle: Rheng ôl
Taldra: 195cm
Pwysau: 108kg
Anrhydeddau: Seland Newydd D20
Clybiau: Wellington, Blues