Y chwaraewr rhyngwladol Blair Murray sy’n dychwelyd i’r Scarlets ar gyfer y gêm darbi fawr yn erbyn y Gweilch ar ddydd Sadwrn (15:00; S4C, Premier Sports).
Nid oedd Murray ar gael ar gyfer gêm penwythnos diwethaf yn erbyn DHL Stormers oherwydd anaf coes, ond yn dychwelyd i’r gêm fory fel yr unig newid i’r XV i ddechrau am rownd 14 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Murray sy’n cymryd lle Ioan Nicholas fel cefnwr, gyda’r chwaraewyr ifanc Ellis Mee a Macs Pahe yn parhau ar y ddau asgell.
Joe Roberts ac Eddie James sydd yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol cae gyda Ioan Lloyd a Gareth Davies yn cyfuno fel haneri.
Yn y rheng flaen mae Alec Hepburn, Marnus van der Merwe a Henry Thomas. Alex Craig sydd yn cydweithio â Sam Lousi yn yr ail reng a fydd Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod yn parhau yn y rheng ôl.
Ar y fainc mae’r prop Sam Wainwright sydd wedi dychwelyd o salwch a wnaeth ei orfodu i dynnu mas o’r gêm penwythnos diwethaf, wrth i Jac Price cael ei gynnwys ymysg yr eilyddion i’r blaenwyr. Efan Jones ac Ioan Nicholas sydd ar y fainc i’r olwyr.
Disgwylir torf o dros 11,000 yn y Parc gydar ‘rhas i’r wyth olaf’ yn poethi yn y bencampwriaeth, mae’n addo i fod yn ddarbi cyffrous arall.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae mynd i fod yn achlysur arbennig. Mae’r ddau ochr am fynd allan a roi perfformiad da a chystadlu am le yn yr wyth olaf. Am rygbi gorllewin Cymru, mae hynny’n wych.
“Mae’n ddarbi fawr, mae llawer o docynnau wedi’u gwerthu, mae’r dorf i weld yn fawr. Mae’r diddordeb yn y gêm yma yn enfawr, sy’n wych, ac mae’n gyffrous i fod yn rhan ohono.
“Roedd pawb yn teimlo’n rhwystredig ar ôl gêm y Stormwyr, ond does dim gêm mwy cyffrous i ni na’ hyn. Rwy’n siwr fydd hi’n gêm dda o flaen cynulleidfa arbennig.”
Tîm y Scarlets yn erbyn y Gweilch ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Mawrth 29 (3yp; S4C & Premier Sports)
15 Blair Murray; 14 Macs Page 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Sam O’Connor, 18 Sam Wainwright, 19 Jac Price, 20 Jarrod Taylor, 21 Efan Jones, 22 Ioan Nicholas, 23 Dan Davis
Ddim ar gael oherwydd anaf
Kemsley Mathias, Johnny Williams, Tom Rogers, Max Douglas, Sam Costelow, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse.