Broses agored o dynnu enwau i benderfynu’r 16 olaf yng Nghwpan Pencampwyr

Rob LloydNewyddion

Yn dilyn trafodaeth fanwl gyda’u rhandeiliaid ac undebau, mae EPCR wedi cyhoeddi fformat diwygiedig ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her 2020-21.

Bydd y ddau dwrnamaint yn ailddechrau gyda rowndiau o 16 gêm ar y penwythnos o Ebrill 2/3/4, a’r ‘knockout stages’ yn parhau gyda rowndiau’r wyth olaf, gyn derfynol â’r rownd derfynol ym Marseille ar benwythnos yn Ebrill a Mai.

Fel y cytunwyd gan fwrdd EPCR, mae’r rowndiau o 16 a’r wyth olaf yn y ddau dwrnamaint nawr yn cael eu penderfynu gan dynnu enwau ar ddydd Mawrth, 9fed o Fawrth.

Ynglŷn â’r Cwpan Pencampwyr Heineken, mae’r wyth tîm uchaf yn Pool A a’r wyth tîm uchaf yn Pool B pan oedd y twrnamaint wedi’i atal, yn gymwys i gystadlu yn y rownd o 16.

At ddibenion y broses tynnu enwau, ni fydd clybiau o’r un gynghrair yn cael eu tynnu yn erbyn ei gilydd, er hyn, bydd clybiau o’r naill pool yn gallu cael eu tynnu yn erbyn ei gilydd.

Egwyddor arall sydd wedi’i gytuno ar gyfer Gwpan Pencampwyr Heineken yw fydd y clybiau sydd wedi ennill rowndiau pool ar y cae – h.y. lle nad oedd canlyniadau’r gêm wedi’i heffeithio gan Covid-19 – yn chwarae gartref yn ystod rowndiau o 16. Oherwydd hynny mae Racing 92, Leinster Rugby, Wasps, Bordeaux-Bègles a Munster Rugby yn sicr o gael gêm gartref.

Bydd y clybiau sydd ddim yn chwarae yn erbyn naill Racing 92, Leinster, Wasps, Bordeaux-Bègles neu Munster yn penderfynu os fyddent yn chwarae gartref neu oddi cartref fel rhan o’r broses tynnu enwau.

Cytunwyd hefyd fydd broses agored o dynnu enwau i benderfynu rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr a’r Cwpan Her, gan alluogi timoedd o’r un gynghrair i chwarae yn erbyn ei gilydd. Bydd tynnu enwau ar gyfer rowndiau’r wyth olaf yn cymryd lle yn syth ar ôl dynnu enwau am y rownd o 16 ar ddydd Mawrth, Mawrth y 9fed.

Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiad yma, sydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar epcr.com yn cael ei gyhoeddi yn gynnar mis nesaf.

Timoedd sy’n gymwys i’r ‘knockout stage’ Cwpan Pencampwyr Heineken 2020-21  

Racing 92, Leinster, Wasps, Bordeaux-Begles, Munster, Lyon, Toulouse, La Rochelle, Scarlets, Clermont Auvergne, Bristol Bears, Exeter Chiefs, Edinburgh, Gloucester, RC Toulon, Sale Sharks.

NB Racing 92, Leinster, Wasps, Bordeaux-Begles a Munster yn sicr o chwarae gartref yn ystod y rownd o 16.

Dyddiadau allweddol EPCR   

Knockout stage draw: Dydd Mawrth, Mawrth 9  

Rownd o 16: Ebrill 2/3/4  

Rownd yr wyth olaf:  Ebrill 9-11  

Rownd gyn derfynol: Ebrill 30-Mai 1/2  

Rownd Derfynol Cwpan Her: Marseille, Dydd Gwener, Mai 21  

Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken: Marseille, Dydd Sadwrn, Mai 22