Llwyddodd y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth dros Gleision y De neithiwr, Mawrth 23ain Ionawr, gan ennill y bencampwriaeth hefyd gyda dwy gêm mewn llawn.
Roedd y fuddugoliaeth yn wythfed buddugoliaeth pwynt bonws o wyth gêm ac fe wnaethon nhw sicrhau eu bod yn ennill pencampwriaeth Graddau Oed URC hefyd gyda dwy gêm mewn llaw.
Agorwyd y sgorfwrdd gan yr asgellwr Alex Varney ar ôl deng munud ac fe aeth ef ymlaen i sgori dwy gais arall. Sgoriwyd ceisiau hefyd gan Gethin Davies, Dafydd Land, Dean James ac Owen Jones.
Sgôr terfynol: Gleision y De 29 Scarlets 39
Fe fydd y Scarlets dan 18 yn wynebu’r Gweilch wythnos nesaf cyn croesawu Gleision y Gogledd i Barc y Scarltes ar nos Fawrn 6ed Chwefror i ddathlu ennill y bencampwriaeth.
Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac yn y Parc pan fydd y tîm ifanc yn dod â’r bencampwriaeth i ben ar 6ed Chwefror.
Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn y stadiwm ei hun, mynediad yn £3 i oedolion gyda mynediad yn rhad ac am ddim i blant dan 16.