Bws Cefnogwyr Dydd y Farn

Kieran LewisNewyddion

Teithiwch gyda ni i Gaerdydd wrth i’r Dwyrain gyfarfod y Gorllewin ar gyfer chweched Dydd y Farn!

£12 yn unig yw pris y bws swyddogol ar gyfer y diwrnod rhanbarthol.

Byddwn ni’n casglu fel a ganlyn;

11:30 Gorsaf drenau Caerfyrddin

11:45 Cross Hands

12:00 Domino’s Pizza, Llanelli

12:15 Parc y Scarlets

Y bwriad yw cyrraedd Caerdydd tua 13:00 cyn cic gyntaf Dreigiau v Scarlets am 15:05.

Fe fydd Gleision Caerdydd yn wynebu’r Gweilch am 17:35 gyda’r bwriad o adael Caerdydd tua 20:30.

I archebu’ch lle ac i brynu tocyn gêm cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.