Siaradodd Dwayne Peel gyda’r wasg yn dilyn fuddugoliaeth 55-21 yn erbyn Nottingham mewn gêm gyfeillgar ym Mharc y Scarlets.
Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud …
Dwayne, beth wyt ti’n i feddwl am y berfformiad a gweld cefnogwyr nôl yn y stadiwm?
DP: “Roedd hi’n grêt i gael y gêm gyntaf adre’, mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai hir ac yn dda i gael ychydig o gystadlu eto. Hyfryd oedd gweld y cefnogwyr eto. Hir yw bob aros ac roedd hi’n dda i groesi’r llinell gais sawl tro hefyd.”
Y chwaraewyr ifanc yn camu i fyny at y galw?
DP: “Y peth pwysicaf iddyn nhw yw cael y profiad. Mae llawer o’r bois yma heb chwarae yn ystod cyfnod Covid. Dechreuodd y bois yn araf, nad oedd yr hanner cyntaf yn grêt, ond roedd hi’n bwysig i’r bois yna i fynd allan ac fe wnaeth y bois yn dda i sgori yn yr ail chwarter a pan laciodd y chwarae yn yr ail hanner.”
Beth meddylais di am Archie Hughes yn sgori dwy gais ar ei ymddangosiad cyntaf?
DP: “Roedd Archie yn egnïol iawn, llawer o rhediadau ac yn gefnogol i’r bois. Credu bysen i wedi mynd am yr hat-tric yn lle pasio i Ryan ar y diwedd! Dwi’n bles iawn gydag ef a Harri, y ddau yn ddeunaw oed ac heb chwarae rygbi hŷn erioed o’r blaen. Bydd hynny’n grêt am eu datblygiad nhw.”
Cafodd Steff Evans effaith oddi ar y fainc a Ryan Conbeer yn drosodd am ei drydydd?
DP: “Mae Steff wedi edrych yn grêt yn ystod ymarferion, wedi rhoi popeth i mewn i’r sesiynau a rhoi perfformiad da i ni. Gallwn ddweud yr un peth am Ryan, mae wedi gweithio’n galed, yn siarp, ac yn edrych yn ffit ac roedd ei gais yn yr ail hanner wedi gorffen yn dda.”
Pa mor dda yw hi i allu adeiladau o gêm a buddugoliaeth?
DP: “Rydym yn mynd i ffwrdd i wersyll ymarfer yng Ngogledd Cymru ac wedyn yn chwarae yn erbyn Leicester ar ddydd Iau gyda thîm gwahanol ac fe allwn weld ble ydyn ni ar ôl hynny. Mae llawer o bethau i weithio ar, rydym yn ceisio datblygu steil o chwarae yn ymosodol ac i ni heb gyffwrdd â phob peth eto, ond dyna beth rydym am wneud dros yr wythnosau nesaf, i wella’r manylion bach cyn cychwyn ein hymgyrch URC yng Nghaeredin.