Cafodd Steff Hughes sgwrs gyda’r wasg gan edrych ymlaen at gêm dydd Sadwrn yn erbyn Benetton.
Shwd mae’r garfan?
Gathon ni wythnos dda wythnos diwethaf, yn amlwg ar ôl gêm Leinster ro’n ni’n siomedig. Roedd ein perfformiad ddim digon da, yn enwedig gan ildio 52 o bwyntiau, ac i ni ddim yn cuddio tu ôl i’r ffaith bod hynny ddim yn ddigon da. Cawsom wythnos ardderchog wythnos diwethaf gan baratoi am gêm fawr ar y penwythnos. Llawer o waith caled wedi mynd i mewn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm.
Pa mor anodd yw hi fel capten a fel garfan i gadw momentwm a cadw hyder gyda cymaint o amser wedi mynd heibio ar ôl chwarae Leinster?
Mae’n sialens unigryw yn enwedig wrth edrych ar y garfan o ran faint o fois i ni wedi colli a faint o rygbi mae’r bois wedi gallu chwarae. Lot o bethau allanol yn cael effaith ac fel gwedais i, i ni ddim yn cuddio tu ôl i’r ffaith bod ein perfformiad ddim digon da. Mae llawer o agweddau o’n gêm ni ddim o’r safon i ni’n anelu tuag at. Mae’n rhoi cyfle i ni ddysgu i wybod fel i wella fel unigolion ac fel tîm, a gyda phob colled mae cyfle i ni ddangos ein hymdrech ac fel i ni allu bownsio nôl.
Pa mor anodd yw hi i fynd wythnos ar ôl wythnos gyda tim gwahanol oherwydd anafiadau a’r Chwe Gwlad?
Rwy’n credu’r sialens fwyaf i ni fel carfan yw gwneud yn siŵr bod pawb ar yr un dudalen. Mae llawer o’r bois yma heb chwarae gêm ers saith mis ac felly mae cael y cydlyniad yn y garfan gydag anafiadau a nifer o’r bois bant yn anodd, ond mae’n rhoi cyfle i’r bois ifanc i chwarae fel Morgan Jones, Jac Morgan, Sam Costelow ac maen nhw wedi bod yn wych. Yn hirdymor fydd hi’n grêt i ni ond yn byr dymor mae’n bwysig i ni wneud yn siŵr i gael pawb ar yr un dudalen fel ein bod yn gallu gweithio mor llyfn ag sy’n bosib.
Pa mor bwysig yw hi i gael y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton?
Beth sy’n ddiddorol gyda Benetton maen nhw’n dîm ardderchog ac yn chwarae rygbi da a dw i fethu deall fel nag yw nhw’n ennill gemau. Maen nhw ar waelod y tabl ond sai’n credu bod hynny’n rhoi llun clir i ni, maen nhw’n dîm cryf yn ardal y dacl ac yn gorfforol, mae sgarmes wych gyda nhw felly mae llawer o sialensiau gyda ni wythnos hyn ond rydym yn paratoi ein gêm ni ac mae llawer o bethau mae rhaid i ni gael yn iawn heb boeni am bwy rydym yn chwarae. I ni fel tîm yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth ac i allu chwarae rygbi agored a bod yn gystadleuol yn yr agweddau yna o chwarae hefyd.
Beth ydych chi wedi bod yn gweithio ar er mwyn targedu’r fuddugoliaeth yn erbyn Benetton?
Mae disgyblaeth wedi bod yn ffactor i ni weithio ar ac roedd hynny ddim yn ddigon da yn erbyn Leinster. Yn lle ein bod yn rhoi ciciau cosb bant, i ni am helpu ein gilydd i osgoi’r trap. Wrth edrych ar ein gêm, mae timoedd yn cael gwaith caled i ddod i mewn i’n 22 ni, felly mae hynny’n rhywbeth i gadw’n ddisgybledig o amgylch y cae a chadw treial symud y bel a symud pac nhw o gwmpas. Rydym yn gwybod pa mor dwyllodrus mae ein tri ôl yn gallu bod pan maen nhw’n gallu cael eu dwylo ar y bel felly sialens ni nawr yw cael y bois yna ar y bel a rhoi’r cyfleoedd iddyn nhw i greu problemau i’r timoedd eraill.
Faint o hyder sydd ganddo chi i allu gael y fuddugoliaeth dydd Sadwrn?
Mae hyder yn rhywbeth rydym yn adeiladu o fewn y garfan, i ni’n hyderus iawn yn ein gallu a chredu os gallwn gael ein hagweddau o chwarae yn iawn fe allwn gael perfformiad da sy’n bwysig, ond cael y fuddugoliaeth hefyd.
Faint o hwb yw hi i’r garfan i weld tim Cymru yn llwyddo?
Mae’r ffordd mae bois Cymru wedi ymateb i’r pwysau sydd arnyn nhw yn rhywbeth fe allwn ddysgu wrth fel carfan, ac rydym yn falch iawn o fel mae bois y Scarlets yn chwarae ar hyn o bryd gyda Chymru ac yn dod a lot o falchder i ni fel carfan. Rydym yn edrych ymlaen at y penwythnos i ddodi pethau yn iawn a dangos i bobl beth rydym yn gallu gwneud.
Sut wyt ti’n asesu diwedd y tymor? Mae’n debygol mae rhas rhwng chi a’r Gleision fydd hi?
Mae’n ddiddorol does dim llawer o gemau ar ôl, ond falle rhyngom ni, y Gleision a Connacht mae’r gystadleuaeth. Mae’n bwysig ein bod ni ddim yn meddwl gormod am hwnna. Perfformiad ac agweddau’r gêm i ni am weithio ar, ac os cawn y pethau yna yn iawn fe all popeth arall weithio mas ar ben eu hunain. Yn amlwg maen gyffroes gyda’r bloc nesa hyn a gobeithio gallwn gael y pwyntiau i’n helpu ni, mae cyfnod anodd yn ein hwynebu ni ond mae’n bwysig i gael agweddau’r gêm yn iawn i ddechrau.
Fel rhwyun sydd yn agos i Sam ar y cae, beth wyt ti’n meddwl o’r ffordd mae wedi settlo i mewn gyda’r Scarlets?
Mae Sam yn grêt. Mae ganddo’r brwdfrydedd yn ystod y gêm ac mae ei ffordd o ymosod yn ardderchog. Mae’n cadw’n sgwâr i’r llinell ac yn fygythiad ar y bel, ac rydym yn gweithio’n dda gyda’n gilydd. Rwy’n credu mai’r ffordd mae wedi dod mewn yn ardderchog ac yn ystod gemau caled hefyd mae wedi gallu rheoli’r chwarae a’r cydbwysedd rhwng ei gêm cicio a’i gem chwarae yn ardderchog. Dw i’n edrych ymlaen at ei weld ar y cae eto a chael amser ar y cae i ddangos beth mae gallu gwneud.
Beth yw dy ymateb di i anaf Josh Macleod?
Ro’n i’n torri’n galon pan glywais i beth ddigwyddodd i Josh. Mae’r bois yn gweithio mor galed, ac roedd yn haeddu’r cyfle. Siaradais gyda fe ac yn amlwg roedd wedi siomi ond yn nabod Josh pan fydd pethau wedi gwella bydd yn cadw ei ben lawr a gweithio mor galed ac mae gallu i ddod ‘nôl mor gryf â mor gyflym ag sy’n bosib.