Mae’r amserlen i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig hyd at R17 wedi’i gwblhau gyda addasiadau wedi’u wneud ar gyfer y gemau wedi’u gohirio ac aildrefnu.
I osgoi newidiadau pellach yn y calendr, mae’r gemau R10 sy’n cynnwys y timau De Affrig sydd fod chwarae yn Iwerddon ac yr Eidal wedi’u aildrefnu ar gyfer y penwythnos olaf o Chwefror.
Mae’r gemau gohiriwyd o R6 a R7 oedd fod wedi’u chwarae yn Ne Affrica wedi’u symud i benwythnosau o Fawrth 11/12 a Mawrth 18/19. Bydd manylion pellach ar gael ar gyfer y gemau yma ar ôl trafodaethau gyda rhandailiaid allweddol.
Mae nifer o gemau De Affrig wedi’u aildrefnu er mwyn hwyluso’r amserlen newydd. Mae’r URC wedi ymrwymo i chwarae pob gêm sydd wedi’u trefnu ond fydd yn blaenoriaethu lles timau a chwaraewyr yn gyntaf.
Mae’r gyngrhair yn falch o weld penderfyniad llywodraeth DU i llacio cyfyngiadau teithio gan barchu’r De Affrig ac yn parhau i ddilyn canllawiau’r awdurdodau iechyd a llywodraethau ym mhob un o’n awdurdodaeth.
Mae ‘Medical Advisory Group’ y URC yn parhau i ddarparu arweiniad meddygol i glybiau er mwyn dilyn canllawiau diogelwch Covid-19.
Bydd dyddiadau ac amseroedd R18 yn cael eu cadarnhau mis nesaf ar ôl trafodaethau gyda’n parteneriaid darlledu, sydd wedi bod o gymorth mawr yn ystod y broses yma.
Amserlen Scarlets
Rd 11 – Ulster (OC) Gwe, Ion 28 (7.35yh)
Rd 12 – Connacht (C) Sad, Chwe 19 (7.35yh)
Rd 13 – Glasgow Warriors (C) Sad, Maw 5 (5.15yh)
Rd 6 – Cell C Sharks (OC) Maw 11-13 (TBC)
Rd 7 – Vodacom Bulls (OC) Maw 13-20 (TBC)
Rd 14 – Zebre (C) Maw 26 (1yp)
Rd 15 – Caerdydd (C) Sad, Ebr 2 (7.35yh)
Rd 16 – Dreigiau (A) Sad, Ebr 23 (3yp)
Rd 17 – Gweilch (OC) Sad, Ebr 30 (5.15yh)
Rd 18 – Stormers (C) penwythnos Mai 21