Mae carfan menywod saith bob ochr Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia mis nesaf wedi ei henwi.
Mae pump o’r 12 yn rhan o garfan Chwe Gwlad Cymru ar hyn o bryd: Alisha Butchers, Sioned Harries, Hannah Jones, Jaz Joyce (Scarlets), ac Elinor Snowsill (Dreigiau). Mae rhaglen Menywod Cymru wedi caniatau i nifer o’r chwaraewyr gymryd rhan yn y gêm saith bob ochr â’r tîm pymtheg bob ochr.
Mae’r prif hyfforddwr Nick Wakley yn gallu galw ar sawl arweinydd; y profiadol Philippa Tuttiett, capten Gleision Caerdydd; dau aelod o’r Lluoedd Arfog yng nghapten y Fyddin Gemma Rowland a Sia Williams sy’n y Llu Awyr (y ddwy o’r Dreigiau); a Shona Powell-Hughes (Gweilch) a enillodd y diweddaraf o’i 46 cap yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd.
.
Dyma’r tro cyntaf i timau saith bob ochr y menywod gystadlu yn y Gemau ers eu cychwyn 88 mlynedd yn ôl.
Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae yn Stadiwm Robina rhwng 13eg-15fed Ebrill. Mae Tîm Cymru yng Ngrwp B gyda Awstralia, Fiji a Lloegr.
Cyn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad fe fydd y garfan yn chwarae yn yr Hong Kong Sevens (6ed-8fed Ebrill).
.
Carfan Saith bob ochr menywod Cymru: Alisha Butchers, Elinor Snowsill, Gemma Rowland, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Kayleigh Powell, Laurie Harries, Philippa Tuttiett (c), Shona Powell-Hughes, Sian Williams, Sinead Breeze, Sioned Harries.