Mae’r fenter newydd i’r tymor yn golygu i’r grŵp D18 i weithio gyda’i gilydd dros gyfnod o chwe wythnos i ymarfer a datblygu i baratoi ar gyfer eu hymgyrch newydd yn y flwyddyn newydd.
O dan arweiniad hyfforddwyr Academi’r Scarlets a’r prif hyfforddwr D18 Daryl Morgan, mae’r garfan wedi gweithio ar eu sgiliau rygbi yn ogystal â’u chryfder a chyflyru yn ystod sesiynau wythnosol ym Mharc y Scarlets.
Wythnos diwethaf, fe aeth prif hyfforddwr Merched Cymru Ioan Cunningham draw i wylio sesiwn i weld sut mae’r dalent yn datblygu yng Ngorllewin Cymru.
“Gwahoddwyd 20 o ferched i ymarfer gyda ni dros yr haf, roedd sawl un ohonyn nhw gyda ni llynedd felly mae’n bwysig i ni i wahodd nhw i’r ymarferion i barhau i weithio ar eu sgiliau,” dywedodd Arweinydd Llwybr Datblygu’r Merched Rhodri Jones.
“Mae tipyn o newidiadau wedi bod, sawl newid i’r rhan addysgiadol, mae’r merched wedi cymryd rhan mewn sesiynau yoga, gwersi spin a ffocysu ar y gym hefyd yn ogystal â’r sgiliau rygbi craidd.
“Roedd y sesiwn olaf ar Ddydd Gwener ac mae’r merched yn mynd i ganolfannau sgiliau Undeb Rygbi Cymru. Bydd ganddyn nhw chwe wythnos gyda staff yr undeb ac ar ôl hynny byddwn yn penderfynu ar garfan estynedig ar gyfer y misoedd cystadleuol yn Ionawr a Chwefror.”
Fe aeth sawl aelod o garfan y Scarlets ymlaen i gynrychioli Cymru D18 ar y llwyfan rhyngwladol, cartref ac oddi cartref, tymor diwethaf.
Ychwanegodd Jones: “Roedd llwyddiant o fewn y garfan tymor diwethaf wrth weld cwpl o’r merched yn derbyn capiau rhyngwladol. Mae’n bwysig i ni adeiladu ar hynny a gyrru’r rhaglen yma ymlaen. Rydym eisiau gweld y merched yn datblygu trwyddo i’r llwybr rhyngwladol yna.
“Mae’r niferoedd sydd eisiau cymryd rhan wedi codi gan ddiolch i’r hybiau yn y rhanbarth a hoffwn weithio’n agosach gyda hyfforddwyr yn ogystal â chwaraewyr.”