Fe fydd y Scarlets yn teithio i Dde Affrica i wynebu Southern Kings ym Mhort Elizabeth nos Wener wrth i’r ffocws ddychwelyd i’r Guinness PRO14.
Mae’r Prif Hyfforddwr Wayne Pivac wedi enwi carfan 26 dyn ar gyfer y daith, gyda’r tîm yn teithio heddiw, Llun 22ain Hydref.
Mae 12 chwaraewr wedi ymuno â Chymru heddiw i baratoi ar gyfer Cyfres yr Hydref a saith arall ddim ar gael.
Mae Lewis Rawlins, James Davies, Jonathan Evans, Aaron Shingler, Tom Prydie ac Angus O’Brien wedi eu hanafu tra bod Kieron Fonotia wedi ei wahardd tan ddydd Sul.
Carfan y Scarlets i deithio i Dde Affrica;
Blaenwyr;
Phil Price, Dylan Evans, Werner Kruger, Simon Gardiner, Taylor Davies, Marc Jones, Daf Hughes, David Bulbring, Tom Price, Josh Helps, Steve Cummins, Blade Thomson, Josh Macleod, Will Boyde, Uzair Cassiem, Ed Kennedy
Olwyr;
Sam Hidalgo-Clyne, Kieran Hardy, Declan Smith, Dan Jones, Steff Hughes, Paul Asquith, Ioan Nicholas, Morgan Williams, Johnny McNicholl, Clayton Blommetjies