Charlie Titcombe i gapteinio’r tîm datblygedig yn erbyn y Dreigiau

Rob LloydNewyddion

Charlie Titcombe bydd yn gapten ar XV Datblygedig y Scarlets yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade ar Ddydd Sadwrn (cic gyntaf 2.30yp).

Mae’r maswr yn arwain grŵp cyffroes ac ifanc sydd yn cynnwys rhai o aelodau Academi Hyn a nifer o enwau’r Academi iau.

Ellis Mee, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth yn gynharach tymor yma, sydd yn dechrau fel cefnwr gyda Jac Davies a Iori Badham wedi’u henwi ar y ddwy asgell.

Elis Price a Gabe McDonald fydd yn bartneriaid yng nghanol cae, wrth i Titcombe cydweithio gyda Rhodri Lewis fel ein haneri.

Yn y rheng flaen gwelir Sam O’Connor, brawd bach y prop rhyngwladol Harri, bachwr Prifysgol Abertawe Joe Rees, a oedd gynt yn rhan o’r Scarlets, ac ein prop pen tynn Gabe Hawley, ymunodd o Academi Ealing yn yr haf.

Yn yr ail reng, Ollie Close, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd wrth ochr Ed Scragg, sydd wedi’i enwi yn is-gapten i Titcombe.

Mae’r rheng ôl yn gyfuniad o flaenasgellwr D18 y Scarlets Osian Williams, Keanu Evans ac aelod o’r garfan hyn Ben Williams.

Scott Sneddon sydd wedi cymryd yr awenau ar gyfer y gêm gan enwi carfan o 27 chwaraewr.

Y blaenwyr ar y fainc yw’r bachwr Lewis Jones (Cwins Caerfyrddin/Arberth), y prop pen rhydd Max Marshall (Prifysgol Abertawe), prop pen tynn yr Academi Jac Pritchard (Met Caerdydd), chwaraewr ail reng yr Academi Hyn Dylan Alfordc (RGC), chwaraewyr ail reng Dom Kossuth (Coleg Sir Gâr, Llanymddyfri), Evan Sheldon (Llanymddyfri) a Joe Denman (Prifysgol Loughborough).

Ymysg yr olwyr mae George Macdonald (Prifysgol Caerdydd/Llanymddyfri), mab i gyn-fewnwr Llanelli Chris; chwaraewyr yr academi hyn, y maswr Steff Jac Jones a’r asgellwr Callum Woolley, yn ogystal â Gryff Watkins (Coleg Llanymddyfri) a’r cefnwr Sion Jones (Coleg Sir Gâr), y ddau yn aelod o’r Academi Iau.

Dywedodd Prif Hyfforddwr yr Academi Scott Sneddon: “Roedd hi’n wych i gael y gêm yma yn y calendr yn ystod yr egwyl Super Rygbi Cymru a’r wythnosau datblygu. Mae’n rhoi’r cyfle i’r bois yn ein Hacademi Hŷn ac Iau i dynnu eu hun yn agosach at gyfle yn y URC wrth gael y gefnogaeth wrth aelodau hŷn y grŵp sydd yn barod wedi cael y profiad yn y bencampwriaeth.

“Mae gennym gwpl o fois o’r ochr D18 a enillodd y teitl tymor diwethaf a diolch enfawr i golegau Llanymddyfri, Abertawe a Chaerdydd am adael i ni ddod mewn a rhai o’r chwaraewyr ar gyfer y gêm.

“Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r grŵp yma’n perfformio a rhoi cip olwg o’r dalent sydd i ddod o’r grŵp yma sydd yn datblygu gyda’r Scarlets.

“Rydym yn barod wedi gweld chwaraewyr fel Eddie James a Macs Page yn y garfan hŷn felly rwy’n siŵr fydd sawl aelod o’r grŵp yma’n dilyn yr un llwybr dros y blynyddoedd i ddod.”

Tîm datblygedig y Scarlets v y Dreigiau (Rodney Parade, Dydd Sadwrn, Tachwedd 10, 2.30)

15 Ellis Mee; 14 Jac Davies, 13 Gabe McDonald, 12 Elis Price, 11 Iori Badham; 10 Charlie Titcombe (capt), 9 Rhodri Lewis; 1 Sam O’Connor, 2 Joe Rees, 3 Gabe Hawley, 4 Ollie Close, 5 Ed Scragg, 6 Osian Williams, 7 Keanu Evans, 8 Ben Williams.

Eilyddion: 16 Lewis Jones, 17 Max Marshall, 18 Jac Pritchard, 19 Dylan Alford, 20 Evan Shelford, 21 Dom Kossuth, 22 Joe Demnan, 23 George Macdonald, 24 Steff Jac Jones, 25 Gryff Watkins, 26 Callum Woolley, 27 Sion Jones.