Mae chwaraewr ail reng y Scarlets Danny Drake wedi gadael y Scarlets.
Fe wnaeth y chwaraewr 26 oed chwe ymddangoasiad i’r Scarlets ar ôl ymuno a’r clwb o dîm North Habour yn Seland Newydd yn 2019. Aeth ar log i dîm Gloucester hefyd ar ddiwedd ymgyrch 2019-20.
Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi Jon Daniels: “Hoffwn ddiolch Danny am ei ymrwymiad i’r Scarlets ar hyd y tymhorau diwethaf a dymunwn yn dda iddo ar y bennod nesaf o’i yrfa.”