Bydd tîm d18 y Scarlets yn barod i groesawu’r gystadleuaeth yn ôl pan fyddwn yn chwarae yn erbyn y Dreigiau a’r Gleision cartref ac oddi cartref.
Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu bod rygbi gradd-oedran wedi’i ohirio am dros flwyddyn bellach, ond mae ein cenhedlaeth nesaf yn paratoi am ei gêm gyntaf yn yr ymgyrch sef gêm ddwyrain v gorllewin ar ddydd Mercher, Mehefin 9fed.
Ar ôl teithio i wynebu Gleision Caerdydd (dydd Sul, Mehefin 14) a’r Dreigiau (dydd Mercher, Mehefin 16), bydd y Scarlets yn cynnal y Gleision ar ddydd Mercher, Mehefin 23, yn Llanelli.
Mwynhaodd y Scarlets buddugoliaeth 31-10 yn erbyn y Gweilch yn ystod gêm ymarfer mis diwethaf.
Euros Evans (yn y llun) fydd prif hyfforddwr d18, wedi’i gynorthwyo gan Gareth Potter, Ricky Guest, canolwr y Scarlets Steff Hughes gyda’r grŵp wedi’i oruchwylio gan hyfforddwr yr Academi Paul Fisher. Josh Davies fydd hyfforddwr cryfder a chyflyru i’r tîm d18.
Gemau
Mer, Meh 9: Scarlets v Dreigiau (Parc y Scarlets; 7.15pm)
Sul, Meh 13: Gleision Caerdydd v Scarlets (Parc yr Arfau; 7.15pm)
Mer, Meh 16: Dreigiau v Scarlets (Ystrad Mynach; 7.15pm)
Mer, Meh 23: Scarlets v Gleision Caerdydd (Parc y Scarlets; 7.15pm)