Tîm d18 y Scarlets fydd yn dychwelyd i chwarae yng nghystadleuaeth Gradd Oedran URC ar Ddydd Sul pan fydd y garfan yn teithio i Ogledd Cymru i wynebu tîm d18 RGC ym Mae Colwyn.
Mae’r prif hyfforddwr Euros Evans a’i dîm hyfforddi wedi enwi carfan estynedig o 47 chwaraewr ar gyfer y gemau yn erbyn RGC, Caerdydd, Dreigiau a’r Gweilch. Y chwaraewr rheng ôl Luca Giannini bydd yn gapten ar yr ochr.
Bydd y gemau yma yn cael eu gwylio gan Undeb Rygbi Cymru i baratoi am ddewis y carfan estynedig ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sydd yn cael ei chynnal dros y Pasg.
Dywedodd prif hyfforddwr Euros Evans: “Mae’n wych i gael y bois nôl yn paratoi ar gyfer y rygbi eto a bydd llawer i chwarae am yn y gemau i ddod. Yn ogystal â dewis y carfan d18 Cymru, bydd y Scarlets hefyd yn cadw llygad agos ar y perfformiadau dros yr wythnosau nesaf gyda golwg i recriwtio chwaraewyr newydd i mewn i’r academi.”
Carfan d18 Scarlets
Olwyr: Harry Fuller, Jac Davies, Dafydd Waters, Tom Edwards, Rhys Harris, James Price, Corey Morgan, Harrison Griffiths, Macs Page, Ieuan Bissel, Jayden Whitney-Williams, Iolo Griffiths, Josh Edwards, Luke Davies, Fraser Jones, Lucca Setaro, Tom Morgan, Iwan Hughes, Kai Inker.
Blaenwyr: Josh Morse, Riley Williams, Luke Tucker, Joe Rees, Harri Thomas, Cai Ifans, Isaac Young, Alfie Fecci-Evans, Mason Lees, James Oakley Ioan Lewis, Owain Powell, Rhys Lewis, Rhys Reed, Logan Sullivan, Oscar Fisher, Cian Trevalyan, Will Plessis, Will Hurley, Jac Delaney, Keanu Evans, Luca Giannini (capt), Ptolemy Alleyne.
Anafu: Tal Rees Iestyn Gwilliam, George Rossiter, Will Thomas, Bryn Thomas.
Gemau Calendr
Sul, Ion 16 – RGC v Scarlets (Colwyn Bay)
Mer, Chwe 2 – Scarlets v Caerdydd (Parc y Scarlets)
Mer, Chwe 9 – Dreigiau v Scarlets (Ystrad Mynach)
Mer, Chwe 16 – Scarlets v Gweilch (Parc y Scarlets)