Roedd chwe chwaraewr Scarlets yn rhan o Wyl D18 ym Mharc yr Arfau ar y penwythnos.
Y blaenwyr Jac Pritchard, Dom Kossuth, Alex Ridgeway, Will Evans (llun) a Keanu Evans yn ogystal â’r maswr Steffan Jac Jones oedd yn rhan o’r wyl lle gwelwyd Cymru yn herio Iwerddon, yr Alban ac yr Eidal yng ngemau hanner awr.
Roedd y chwaraewyr yn rhan o garfan 30 dyn ac wedi’u dewis gan y prif hyfforddwr Richie Pugh sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd.