Chwech Scarlet yng ngharfan Cymru dan 18 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Kieran LewisNewyddion

Mae Cymru wedi enwi’r garfan a fydd yn chwarae ym mhwncampwriaeth cyntaf Chwe Gwlad dan 18, a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn Ystrad Mynach.

Fe fydd y chwaraewyr gorau yn eu grwp oedran – o dan 18 ar y 1af o Ionawr 2018 – o Loegr, Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, Yr Alban a Chymru yn chwarae tri gêm yr un ar Mawrth 31ain, Ebrill 4ydd ac Ebrill 8fed. Fe fydd tri gêm ar bob un o’r diwrnodau; y cyntaf yn Ystrad Mynach a’r ddau arall ym Mharc yr Arfau.

Bwriad yr wyl yw darparu awyrgylch cytadleuol a phroffesiynol i gynorthwyo datblygiad y chwaraewyr ifanc.

Fe fydd Cymru yn wynebu Ffrainc yn Ystrad Mynach ac yna Iwerddon a’r Eidal ym Mharc yr Arfau.

Carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad dan 18:

Blaenwyr: Robert Brookson (Coleg Gwent/Dreigiau), Ben Carter (Caldicot/ Dreigiau), Ioan Rhys Davies (Coleg y Cymoedd/Gleision Caerdydd), Archie Griffin (Marlborough College/Exiles), Will Griffiths (Coleg Gwent/ Dreigiau), Cameron Lewis (Coleg Sir Gar/Gweilch), Jac Morgan (Coleg Sir Gar/Scarlets), Jac Price (Coleg Sir Gar/Scarlets), William Sanderson (Coleg Llandrillo/RGC), Carwyn Tuipulotu (Sedbergh School/Alltud), Olly White (Coleg Llanymddyfri/RGC), Callum Williams (Ysgol Maes Y Gwendraeth/Scarlets), Teddy Williams (Ysgol Gantaf/ Gleision Caerdydd), Luke Yendle (Ysgol Uwchradd Casnewydd/ Dreigiau)

Olwyr: Ellis Bevan (Bryanston/Alltud), Dafydd Buckland (Ysgol Uwchradd Casnewydd / Dreigiau), Sam Costelow (Oakham School/Alltud), Harri Doel (Coleg Sir Gar/Scarlets), Frankie Jones (Coleg Castellnedd Port Talbot/Gweilch), Osian Knott (Coleg Sir Gar/Scarlets), Evan Lloyd (Coleg Gwent/Dreigiau), Ioan Lloyd (Clifton College/Alltud), Aneurin Owen (Ysgol Gyfun Gwynllyw/ Dreigiau), Louis Rees-Zammit (Coleg Hartpury /Exiles), Joe Roberts (Coleg Sir Gar/Scarlets), Josh Thomas (Ysgol Gyfun Gwyr/Gweilch)