Mae’r cefnwr dawnus Corey Baldwin wedi ailymuno a’r Scarlets o Exeter Chiefs o flaen tymor 2021-22.
Fe ddatblygodd y chwaraewr 22 oed trwy system Academi’r Scarlets gan wneud 24 ymddangosiad i’r tîm cyntaf, gan sgori ceisiadau yn ystod gemau Cwpan Her Ewrop yn erbyn Gwyddelod Llundain yn nhymor 2019-20.
Gyda chapiau d20 Cymru, mae Corey yn hydreus fel canolwr ac ar yr asgell ac yn ymuno o flaen cyfnod cyffroes ym Mharc y Scarlets.
“Mae’n grêt i gael Corey nôl ym Mharc y Scarlets,” dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel. “Mae’r cefnogwyr yn barod wedi gweld ei botensial yn y garfan. Mae gallu chwarae ar yr asgell neu fel canolwr, yn ddeinameg ac yn gwibiwr da gyda’i lygaid yn dynn ar y llinell gais ac fydd yn opsiwn da i ni tu cefn i’r sgrym.
“Rydym yn falch iawn o’r nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi datblygu gyda ni ac wedi mynd ymlaen i gynrychioli eu gwlad ar radd oedran ac mae Corey yn un ohonynt.
“Mae wedi bod yn wych ei weld. yn ymarfer gyda’r bois ym Mharc y Scarlets yr wythnos yma.”
Ar ôl ymuno’r Chiefs yn haf 2020, roedd Baldwin yn rhan o’r garfan aeth ymlaen i ennill teitlau Ewropeaidd a’r Premiership yn ystod ei amser yna.
“Dwi wedi colli bod yn agos at fy nghlwb cartref a bod yn rhan o deulu’r Scarlets, dwi’n edrych ymlaen i fod nôl,” dywedodd.
“Mae wedi bod yn wych i fod nôl yn ymarfer gyda’r bois wythnos yma.
“Mae’n amser cyffroes i’r clwb, mae llawer o gyffro yma ac mae’n amlwg bod gan y Scarlets targedau i gystadlu yn erbyn y timoedd gorau ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig ac yn Ewrop.
“Gyda llawer o dalent yn y garfan dwi’n edrych ymlaen at gystadlu am y crys.
“Hoffwn ddiolch Exeter am adael i mi ddychwelyd at fy nghlwb cartref a dymunaf y gorau iddyn nhw gyda’r tymor newydd.”
Baldwin ydy’r pumed chwaraewr i arwyddo cytundeb ar gyfer ymgyrch 2021-22, gan ddilyn Scott Williams, Tom Price, Tomas Lezana a WillGriff John.