Cunningham: “Mae’r ysbryd yn uchel yma, ac ry’ ni’n edrych ymlaen at y sialens enfawr y penwythnos hyn.”

Kieran LewisNewyddion

Yn siarad gyda’r wasg ymhen gwrthdrawiad nesaf y Scarlets, bu Ioan Cunningham, Hyfforddwyr y Blaenwyr yn trafod pob peth Cwpan y Byd, sialens Caeredin ar y penwythnos a’r rhediad o fuddigoliaethau mae’r Scarlets yn profi ar hyn o bryd.

“Ry’ ni’n hapus iawn i gael y tri fuddigoliaeth, ac mae’n hyfryd i gael un oddi cartref hefyd. Mae’r bechgyn yn gweithio’n galed bob dydd, mae’r ysbryd yn uchel yma, a ry’ ni’n edrych ymlaen at y sialens enfawr y penwythnos hyn.” dywed Ioan.

Gyda gwrthdrawiad Caeredin yn ei gwynebu penwythnos yma, mae’n brofi i fod yn sialens i’r Scarlets gan eu bod wedi maeddu’r Gleision oddi cartref yn barod yn y gystadleuaeth.

“Mae mynd i fod yn sialens wahanol, ni’n gwybod eu strwythur nhw fel pac a’i amddiffyn cryf hefyd, felly mae mynd i fod yn sialens wahanol i ni. Pwy a wyr, falle bydd un neu ddau chwaraewr o’r Alban yn dod nol iddynt o Gwpan y Byd, felly fydd hynnu’n sialens i ni a ry’ ni’n edrych ymlaen i’w herio!”

Yn edrych ymlaen at y cwpl o wythnosau nesaf fel rhanbarth rydym yn gwynebu tair gêm yn wythnosol yn barod ar gyfer hêr cyntaf y Cwpan Sialens Ewropeaidd. Mae’n gyfnod holl bwysig i gynilo pwyntiau yn barod ar gyfer ail hanner y tymor ar ôl y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

“Ydy, os allwn ni gael mwyafrif o’n pwyntiau ni nawr ar adeg hyn o’r tymor fydde’n help mawr wrth i ni agosau at y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Mae’r bechgyn sydd gyda ni fan hyn ar hyn o bryd, yn barod i rhoi ei traed i lawr pan fydd y bois rhyngwladol yn dod nol i’r garfan.”

Mae gennym gwbl o chwaraewyr newydd yn dod i mewn i’r garfan cyn hir sydd wedi bod yn cymryd ran yn Cwpan y Byd, dywed Ioan;

“Ry’ni’n gobeithio fod y ddau chwaraewr, Tevita ‘Tex’ Retuva o Fiji a Sam Lousi o Tonga yn dod ato ni o fewn pythefnos, mae Kieron Fonotia nol gyda ni yn ymarfer nawr a fyddwn ni’n gwneud galwad arno fe yn y trydie nesaf i weld beth fydd ei sefyllfa. Bydd Blade Thomson yn dod nol ymhen pythefnos hefyd, felly mae’r bois yn dod nol, mae nhw’n disgwyl mlaen i ddod nol i weithio gyda’r bechgyn sydd wedi bod yn gwneud gwaith ffantastic hyd yn hyn yma.

.

.

.

.

.

.

.

Gwyliwch her nesaf y Scarlets yn erbyn Caeredin yn Stadiwm BT Murrayfield, CG 19:35, ar sianel Premier Sports 2.