Mae maswr y Scarlets Josh Phillips yn gobeithio i greu argraff da wrth i Gymru D20 chwarae’r Eidal yn eu gêm pool olaf yng Nghyfres Chwe Gwlad yr Haf yn Nreviso ar Nos Fercher (7yh amser Prydeinig).
Fe ddaeth Phillips, 20, oddi’r fainc yn gynnar i newid trywydd y gêm yn erbyn Georgia yn y gêm diwethaf – i ychwanegu at y fuddugoliaeth agoriadol yn erbyn yr Alban – ac yn anelu at greu effaith tebyg yn erbyn yr Eidalwyr wrth i’r ddau ochr targedu am y safle brig a chyfle i chwarae enillwyr y Pool A.
Dywedodd: “Nad oeddwn yn disgwyl anaf ac i ddod ymlaen mor gynnar (yn erbyn Georgia), ond roedd yn gyfle i mi ddangos fy nhalent ac i gymryd yr awennau.
“Roedd hi’n ychydig yn rhwystredig i beidio cael y cyfle i ddechrau eto, ond dw i wedi mwynhau fy amser yma yn Nreviso ac mae’n bosib i greu argraff da oddi’r fainc hefyd.”
Ychwanegodd Phillips: “Cawsom canlyniad da yn erbyn yr Alban yn y gêm gyntaf ac yn gwybod roedd angen i ni weithio’n galed yn erbyn Gerogia, maent yn dîm corfforol iawn ac fe lwyddon i gyrraedd eu lefel nhw.
“Nad oedd llawer o ffydd gan bobl yn y tîm yn dilyn y Chwe Gwlad, rydym wedi cael dau buddugoliaeth da ac yn edrych am berfforimad mawr eto yn erbyn yr Eidal.”
Yn ymuno â Phillips ar y fainc mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets Caleb Salmon a Luke Davies o Lanelli.