Mae dyddiadau ac amseroedd gemau’r Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Heineken wedi’u cyhoeddi.
Rydym yn cychwyn gyda Bristol Bears yn Ashton Gate ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 11 (cg 5:50yh), wedyn yn croesawu Bordeaux-Begles i Barc y Scarlets ar ddydd Sul, Rhagfyr 19 (1yp) yn rownd dau.
Bydd y gêm oddi cartref yn Ffrainc yn cymryd lle ar ddydd Sul, Ionawr 16 (3:15yp amser DU) ac yn cwblhau ein ymgyrch pool adref yn erbyn y Bears mewn frwydr Anglo-Gymraeg cyffroes ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Ionawr 22 (5:30yh).
Unwaith eto, darlledwyr teledu BT Sport fydd yn dangos bob 48 gêm o’r gystadleuaeth yn fyw yn y DU ac Iwerddon, ac yn ategu at y darllediad hyn bydd Channel 4 a Virgin Media yn dangos y gemau ar eu sianeli ‘free-to-air’.
Cliciwch ar y ddolen i weld amserlen Cwpan Pencampwyr Heineken 2021/22 https://www.epcrugby.com/champions-cup/matches/fixtures-and-results/
Yn cystadlu am y Gwpan Pencampwyr Heineken bydd 24 clwb mewn dau pool o 12 dros pedwar rownd. Bydd yr wyth clwb ar frig bob pool yn gymwys i chwarae yn y ‘knockout stages’ a fydd yn golygu chwarae ‘Round of 16’ mewn gemau cartref ac oddi cartref, rownd yr wyth olaf, rowndiau gyn-derfynol ac y rownd derfynol yn Marseille ar Fai 28, 2022. Bydd y clybiau sydd wedi’u rhestri nawfed i 11 ym mhob pool fydd yn gymwys i chwarae yn y ‘Ronud of 16’ yng Nghwpan Her EPCR.
Gemau’r Scarlets
Rownd 1 – Bristol Bears (A) Sad, Rhag 11 (5.30yh)
Rownd 2 – Bordeaux-Begles (H) Sul, Rhag 19 (1.00yp)
Rownd 3 – Bordeaux-Begles (A) Sul, Ion 16 (3.15yp DU)
Rownd 4 – Bristol Bears (H) Sad, Ion 22 (5.30yh)