Mae cynlluniau ar gyfer rownd derfynol rhwng y Gogledd a’r De yng Nghwpan yr Enfys Guinness PRO14 ar Fehefin 19 am fod yn gêm hanesyddol i glymu’r ddau twrnamaint Ewrop a De Affrica gyda’i gilydd i gyhoeddi un ennillydd.
Ar hyn o bryd, disgwylir cyhoeddiad ar gyfer y cynlluniau yn fuan gyda’r rownd derfynol yn cael ei gynnal yn Ewrop. Roedd hi’n bwysig i’r camau yma gael ei rhannu gyda’r timoedd, cefnogwyr, darlledwyr a noddwyr o flaen gemau Cwpan yr Enfys penwythnos yma yn Ewrop a De Affrica.
Y cynrychiolwr o’r Gogledd fydd y tîm sydd wedi gorffen ar frig y tabl ymysg y 12 tîm yng Nghwpan yr Enfys Guinness PRO14 a’r cynrychiolwr o’r De fydd yr ochr sydd yn gorffen ar frig y tabl yn y gystadleuaeth De Affrig.
Bydd manylion pellach ar y Rownd Derfynol Cwpan yr Enfys yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.