Yr asgellwr Ryan Conbeer yw’r chwaraewr diweddaraf i ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets.
Mae’r chwaraewr 23 oed wedi rhoi sawl perfformiad anhygoel tymor yma ac fe serennodd yn ystod y gêm Cwpan Pencampwyr gyda Bristol Bears ym mis Ionawr.
Wedi’i fagu yn Llanysullt, fe ddatblygodd trwy lwybr datblygu ac academi’r Scarlets a enillodd capiau i Gymru o Dan 18 a 20 cyn llwyddo yn rygbi saith bob ochr Cymru.
Ymddangosodd 38 o weithiau i’r Scarlets ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf erbyn Caerfaddon nôl yn 2016 pan oedd yn 17 oed.
Dywedodd Ryan: “Wrth dyfu i fyny yng Ngorllewin Cymru, chwarae i’r Scarlets oedd fy mreuddwyd. Rwy’n mwynhau chwarae yma, a gweithio’n galed i allu chwarae cymaint a dw i allu.
“Mae llawer o gystadleuaeth am safle’r tri ôl sydd yn ddigon i wthio pawb. Dw i wedi dysgu llawer wrth y bois mwy profiadol yma sydd wedi helpu gwella fy ngêm. Mae Dwayne yn frwdfrydig i wthio’r bois ifanc trwy ac mae hynny lan i ni i gymryd y cyfleoedd hynny. Mae gennym gemau mawr ar ôl i chwarae a dw i’n gobeithio bod yn rhan ohonyn nhw a gorffen yr ymgyrch yn gryf.
Conbeer ydy’r chwaraewr diweddaraf i gytuno ar gytundeb newydd, dilyn Sam Lousi, Rhys Patchell a Scott Williams.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Ryan ydy un o sawl chwaraewr talentog ifanc sydd gennym yn y garfan ac roedd ei berfformiad yn erbyn y Bears yn enwedig wedi dangos ei allu ar y lefel yma.
“Gweithiodd yn galed yn ystod yr haf ac wedi haeddu’r cyfleoedd yn y tîm. Mae llawer mwy ganddo i roi ac rwy’n edrych ymlaen, fel rwy’n siŵr mae’r cefnogwyr hefyd, i weld ei ddatblygiad dros y blynyddoedd i ddod.”
Diolch i City and Trust finance am noddi Ryan yn ogystal â sawl chwaraewr arall yng ngharfan y Scarlets.