Scott Williams yw’r chwaraewyr diweddaraf i ymestyn ei aros gyda’r clwb.
Mae’r chwaraewr rhyngwladol, sydd yn ei ail gyfnod gyda’r Scarlets, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r garfan.
Yn dilyn perfformiadau anhygoel y tymor yma, enillodd wobr chwaraewr y gêm URC dwywaith yn ogystal ag arwain y tîm yn absenoldeb ei gydchwaraewr Jonathan Davies.
Wedi’i gapio 58 o weithiau i’w wlad, mae Scott wedi ymddangos 146 o weithiau i’r Scarlets gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2009 ac oedd yn rhan o’r garfan enillwyd y teitl PRO12 yn 2017.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Scott wedi rhagori ers ei ddychweliad tymor yma. Mae’n chwaraewr sy’n arwain wrth esiampl ac mae ei berfformiadau wedi dangos beth mae chwarae i’r clwb yn golygu iddo.
“Mae ganddo lawer i roi ar i’r gêm ar y lefel uchaf ac mae’n newyddion gwych ei fod wedi ymrwymo i’r Scarlets.”
Dywedodd Scott Williams: “Mae’r Scarlets wedi dangos llawer o ffydd yn beth allai wneud trwy dderbyn fi nôl yma a dw i am roi nôl i’r clwb am roi’r cyfle yna i mi.
“Nad ydym wedi cael y canlyniadau rydym wedi eisiau cyn belled tymor yma, ond mae’n teimlo ein bod yn adeiladu at rywbeth o dan arweinyddiaeth Dwayne a dw i’n edrych ymlaen at weld beth all y grŵp yma cyflawni o fewn y blynyddoedd nesaf.”
Mae newyddion heddiw yn dilyn cyhoeddiadau cytundebau Rhys Patchell a Sam Lousi gyda mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf.
Mae Scott wedi’i noddi gan Dyfed Recycling a hoffwn ddiolch y busnes lleol am eu cefnogaeth barhaus i’r Scarlets.