Cytundeb Scarlets newydd i Joe Roberts

Rob LloydNewyddion

Chwaraewr rhyngwladol Cymru Joe Roberts yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae’r chwaraewr 24 oed, a oedd yn rhan o ymgyrch Chwe Gwlad Cymru, sydd wedi cytuno ar gytundeb newydd i’w gadw yn ei glwb gartref.

Wedi’i fagu yn Llanelli, cychwynnodd ei daith gyda chlwb Sêr y Dociau Newydd a Phorth Tywyn cyn datblygu trwy’r system yng Ngholeg Sir Gâr a thimau gradd oedran y Scarlets a’r Academi.

Ymddangosodd am y tro cyntaf i’r garfan hyn yn 2020 gan chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf yn ystod ymgyrch Rainbow Cup 2021.

Ar ôl gwella o anaf pen-glin difrifol, fe aeth Joe ymlaen i fod yn chwaraewr cyson yng nghanol cae i’r Scarlets ac fe enillodd ei gap Prawf cyntaf yn erbyn Lloegr cyn taith Cwpan Rygbi’r Byd 2023.

Dychwelodd o anaf arall i’w ben-glin ym mis Tachwedd ac ymddangosodd yn tri o gemau Prawf Cymru yn y bencampwriaeth yn 2025.

Gyda 43 ymddangosiad Scarlets i’w enw mae Joe yn edrych ymlaen at beth sydd i ddod dros y tymhorau nesaf.

“Dyma fy nghlwb gartref i, fe ddatblygais trwy’r timau gradd oedran a’r Academi, mae’n wych i fod yn aros yma,” dywedodd.

“Roedd dechrau’r tymor yn anodd i mi gyda fy anaf, ond mae’n braf cael fod nôl yn chwarae i’r Scarlets ac wedyn bod yn rhan o garfan Cymru eto.

“Wrth edrych ar y chwaraewyr newydd rydym wedi arwyddo a’r rhai sydd yn aros, yn enwedig yn y tri ôl, mae’n gyffrous iawn.”

Bydd Joe yn rhan o’r gêm fawr ar Ddydd Sadwrn yn erbyn DHL Stormers yn Llanelli wrth i’r Scarlets gwthio am le yn yr wyth uchaf o dabl y URC.

Ychwanegodd: “Mae’n braf i fod nôl yma wythnos yma ac mi fydd hi’n gêm fawr yn erbyn y Stormers, tîm a fydd yn dod yma gyda llawer o bŵer felly edrychaf ymlaen at gael y cyfle i wynebu nhw ac wedyn gemau darbi y Gweilch, rhywbeth rydym i gyd yn ysu i gael fod yn rhan ohono.

“Mae’r wythnosau nesaf yn bwysig iawn i ni ac rwy’n siŵr fydd y cefnogwyr yn gefnogol iawn. Ganddyn nhw ran enfawr i chwarae yn hyn.”

Gyda’r olwyr Macs Page a Tomi Lewis hefyd wedi adnewyddu cytundeb a Joe Hawkins ar ei ffordd o Exeter Chiefs haf yma, mae gan y Scarlets llawer o dalent yn berwi yn y sosban tymor nesaf.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae Joe yn fychan o’r dref sydd wedi mynd ymlaen i gyrraedd brig y gêm ac yn epitomeiddio popeth rydym am gyflawni yma.

“Wedi gwella o anafiadau difrifol fel chwarae ifanc, mae Joe wedi dangos ei gryfder trwy nid yn unig bod nôl yng nghrys y Scarlets, ond i ennill safle yn nhîm Cymru hefyd.

“Mae Joe yn rhan enfawr o’n cynlluniau dros y tymhorau nesaf ac wrth weld y dalent ifanc sydd yn casglu yma, mae’n gyfnod cyffrous i bawb ynghlwm a’r clwb.”