Bydd Dafydd Iwan yn perfformio’n fyw ym Mharc y Scarlets cyn gêm ddarbi Gorllewin Cymru rhwng y Scarlets a’r Gweilch ar ddydd Sadwrn, Mawrth 29.
Bydd Dafydd yn diddanu ein torf gyda’i ffefrynnau, gan gynnwys yr eiconig Yma O Hyd, sef cân poblogaidd y Scarlets cyn pob gêm gartref.
Mae cerddoriaeth Dafydd Iwan wedi dod yn gyfystyr â chwaraeon Cymru.
Mae Yma O Hyd wedi cael ei chanu ers tro gan gefnogwyr ar derasau Parc y Strade a Pharc y Scarlets ac yn fwy diweddar bu’n anthem i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Bydd manylion pellach am adloniant diwrnod gêm yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer gêm Rownd 14 yr URC ar tickets.scarlets.wales neu drwy ffonio swyddfa docynnau’r Scarlets ar 01554 29 29 39.