Bydd y gantor enwog Dafydd Iwan yn perfformio cyn ac ar ôl y gêm fawr ar ddydd Sadwrn yn erbyn y Gweilch.
Bydd Dafydd yn canu ei anthem eiconig a un o ffefrynau y Scarlets Yma O Hyd cyn y gic gyntaf ac wedyn yn perfformio am 45 munud i ddiddanu cefnogwyr ym maes parcio eisteddle’r dwyrain ar ôl y gêm (tua 30 munud ar ôl y chwiban olaf).
Ar ôl y gêm, bydd Côr Ysgol y Strade, sydd yn ddiweddar wedi perfformio cynhyrchiad gwreiddiol am fywyd Dafydd o’r enw ‘Yma O Hyd’, yn ei ymuno i ganu.
Bydd y côr hefyd yn canu yn ystod hanner amser wrth ochr y cae.
Rydym wedi gwerthu yn agos at naw mil o docynnau yn barod gyda’r tywydd yn disgwyl i fod yn sych, peidiwch â cholli mas ar y digwyddiad mawr yma ym Mharc y Scarlets.
Tocynnau ar gael YMA or by ringing the Scarlets Ticket Office on 01554 292939.