Dan Davis sydd wedi ennill y bleidlais Chwaraewr y Mis am fis Ionawr.
Enillodd y blaenasgellwr 50% o’r bleidlais, gan faeddu Joe Roberts, Johnny McNicholl, Sam Lousi a Vaea Fifita am y drydedd wobr y tymor hwn.
Mae Davis wedi rhoi ymdrech arbennig ers y flwyddyn newydd, gan serennu sawl tro yng nghrys rhif 7.
Dywedodd y chwaraewr 24 oed: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio, mae’n wych i gael gyfres o gemau da a dwi’n mwynhau chwarae. Rydym wedi cychwyn 2023 heb golli un gêm felly edrych ymlaen at Gaeredin nawr.”
Dywedodd hyfforddwr amddiffyn y Scarlets Gareth Williams: “Mae Dan wedi bod yn wych. O ran amddiffyn, mae’n ychwanegu at y gêm bob tro ac yn gweithio ar ei safon yn bersonol sydd yn dangos yn ei berfformiadau. Beth sydd yn bleser i weld hefyd yw ei gysondeb ac mae’n grêt i weld bod y cefnogwyr yn cydnabod hynny.
“Mae’n esiampl wych o beth i ni yn ceisio creu, mae Dan yn cymryd y cyfleoedd hynny ac yn mynd â’r tîm ymlaen hefyd.”
Mae Davis yn dilyn Sione Kalamafoni (Medi/Hyd) a Dane Blacker (Tach/Rhag) fel enillwyr y tymor.
Llongyfarchiadau i Lara Davies sydd wedi ennill £100 i wario ar Castore. Cafodd enw Lara ei dynnu ar hap wrth iddi lenwi y ffurflen pleidlais.
Cofiwch i gymryd rhan yn y bleidlais nesaf a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth.
Dan yn derbyn ei wobr wrth gapten y Scarlets Jonathan Davies
Pic: Riley Sports Photography