Mae’r Scarlets yn siomedig i gyhoeddi eu bod wedi fforffedu’r gêm rownd un o Gwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Bristol Bears, sydd wedi’i drefnu ar gyfer Dydd Sadwrn, Rhagfyr 11.
Yn dilyn trafodaethau rhwng rheolwyr, hyfforddwyr, chwaraewyr a thîm meddygol a chyflyru’r Scarlets, roedd yna deimlad llethol eu bod yn risg corfforol i ddewis unrhyw aelod o’r garfan sydd ar hyn o bryd yn hunan ynysu mewn gwesty tu fas i Belffast.
Ers dychwelyd o Dde Affrica, mae’r grŵp yn dilyn rheolau llym o gwarantin 10 diwrnod, ac yn gyfyng i’w ystafelloedd gydag amser cyfyngedig tu fas heb unrhyw gyfle i hyfforddi megis grŵp. Mae’r cyfnod o hunan ynysu yn gorffen ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 10 – ond diwrnod cyn y gêm yn erbyn Bryste.
Ar hyn o bryd, mae gennym 14 chwaraewr ffit yn hyfforddi ym Mharc y Scarlets – saith chwaraewr hŷn a saith chwaraewr datblygedig.
Hoffwn ddiolch i’r Gweilch ac i’r Dreigiau am gynnig eu cymorth, ond, yn anffodus, nad oedd hi’n bosib rhoi tîm at ei gilydd y teimlwn oedd yn ddiogel i chwarae’r Bears.
“Nad oedd hi’n benderfyniad rhwydd i’w wneud,” dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets Simon Muderack.
“Mae cefnogwyr, chwaraewyr a staff o’r ddau ochr wedi edrych ymlaen at y gêm wych yma rhwng dau glwb gwych.
“Serch hynny, lles ein chwaraewyr yw ein blaenoriaeth ac yn dilyn trafodaethau gyda’n staff, teimlwyd ei fod yn ormod o risg i ofyn i chwaraewyr sydd ar hyn o bryd yng nghwarantin, i chwarae gêm o’r maint a’r dwyster yma un diwrnod ar ôl dod mas o gwarantin. Mae rhaid ystyried, mae’r garfan wedi bod yn hunan ynysu ers i’r newyddion dorri am straen Omicron yn gyntaf pan oeddent yn Durban felly ar y cyfan mae hynny’n golygu rhyw 15 diwrnod i gyd. Yn ogystal â hynny, mae sawl chwaraewr heb chwarae ers gêm Benetton ar Hydref 22. Fel clwb mae gennym ddyletswydd gofal i’n chwaraewyr.
“Gydag ond 14 aelod o’r garfan yn hyfforddi ym Mharc y Scarlets, hanner ohonynt yn chwaraewyr datblygedig, fe wnaethom edrych ar y posibilrwydd o gofrestru chwaraewyr o ranbarthau eraill ac rydym yn ddiolchgar am yr ymateb positif oddi wrth y Gweilch a’r Dreigiau. Ond byse unrhyw chwaraewr ar fenthyg i’r Scarlets yn parhau fel aelod o’n carfan ar gyfer gweddill ein gemau pool, sydd wedi gwneud yr opsiwn hwnnw’n her hefyd.
“Gan ffocysu ar gywirdeb y gystadleuaeth, teimlwn nad oeddem yn gallu rhoi at ei gilydd tîm cystadleuol i chwarae yn erbyn y Bears.
“Rydym i gyd wedi’u siomi. Rwy’n ymwybodol bod llawer o gefnogwyr wedi trefnu llety ym Mryste ac yn edrych ymlaen at y gêm. Ond rwy’n siŵr fydd pawb yn deall y sefyllfa rydym yn delio â heb unrhyw fai arnom ni.
“Hoffwn bwysleisio hefyd nad ydym wedi dychwelyd unrhyw ganlyniadau positif o Covid-19 ers dychwelyd o Dde Affrica a chyrraedd Gogledd Iwerddon.
“Hoffwn ddiolch bawb yn Bristol Bears ac EPCR am eu dealltwriaeth o’n sefyllfa ac edrychwn ymlaen at groesawu Pat Lam a’i ochr i Barc y Scarlets ar gyfer ein gêm gartref ym mis Ionawr.”
I’n cefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau a threfniadau teithio ar gyfer y gêm, bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi yn fuan.