Cafwyd EPCR gwybod nad yw RC Toulon yn credu gellir chwarae’r gêm Cwpan Pencampwyr Ewrop heno, Rownd 2 yn erbyn y Scarlets ym Mharc y Scarlets, (Dydd Gwener, Rhagfyr 18) mewn modd digon diogel i’w chwaraewyr a’u staff.
Yn dilyn cadarnhad gan y Scarlets bod un o’i chwaraewyr wedi derbyn canlyniad positif o COVID-19 ar ôl chwarae yn erbyn Caerfaddon penwythnos diwethaf, mae’r chwaraewr hynny wedi dilyn canllawiau’r llywodraeth ac yn hunan ynysu, ac mae’r ddau chwaraewr a chafwyd eu nodi yn gyswllt agos wedi cael eu gadael allan o’r tîm i chwarae RC Toulon heno.
Ymgynullwyd Pwyllgor Asesu Risg Meddygol yn gynharach heddiw i drafod unrhyw faterion posib o ran profion y Scarlets, ac roedd y pwyllgor yn fodlon bod y risg o drosglwyddo pellach wedi’i gynnwys, a bod y gêm gallu mynd yn ei flaen.
Wrth glywed pryderon RC Toulon ynglŷn â’r gêm, awgrymwyd i ohirio’r gêm i ddyddiad yn hwyrach yn y penwythnos er mwyn caniatáu i chwaraewyr optio allan o’r gêm pe byddent yn dymuno gwneud hynny. Awgrymwyd hefyd y gallai RC Toulon defnyddio chwaraewyr arall o’i charfan bresennol i gymryd lle’r rhai sydd wedi tynnu’n ôl, ac y gallai carfan y Scarlets derbyn profion PCR ychwanegol.
Roedd y cynigion yma wedi cael ei wrthod gan RC Toulon, ac felly mae EPCR yn gallu cadarnhau bod y gêm wedi ei ohirio.