Gall y Scarlets gadarnhau bod chwaraewr datblygu wedi dychwelyd prawf positif yn dilyn ei raglen sgrinio wythnosol COVID-19.
Yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r unigolyn yn ynysu ar hyn o bryd.
Ni nodwyd unrhyw aelodau o staff chwarae nac ystafell gefn y Scarlets fel rhan o’r protocolau olrhain cyswllt sydd ar waith.
Nid oedd yr unigolyn yn rhan o garfan diwrnod gêm y Scarlets ar gyfer gêm Guinness PRO14 ddydd Sadwrn diwethaf yn erbyn Munster, ac nid yw paratoadau ar gyfer gêm rownd dau y Sul hwn yn erbyn Glasgow Warriors wedi cael eu heffeithio wrth i ni barhau i lynu’n ddiwyd wrth ein gweithdrefnau COVID-19.