Mewn ymateb i bost Instagram gan Ross Moriarty hoffai’r Scarlets wneud y datganiad canlynol.
“Rydym wedi siomi i ddarllen am y digwyddiad yn ystod y gêm ar Ddydd Calan yn erbyn y Dreigiau sy’n cynnwys cefnder Ross Moriarty. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n sefydliadau cefnogwyr Crys16 a Grwp Cefnogwyr y Scarlets i greu amgylchedd sy’n croesawu teuluoedd i gefnogwyr Scarlets ac ein gwrthwynebwyr ym Mharc y Scarlets ac i glywed am ferch ifanc yn cael ei cham-drin ar lafar gan gefnogwr yn gwbl annerbyniol. Mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch i gam-drin o unrhyw natur yn ein stadiwm ac yn annog cefnogwyr i riportio digwyddiadau o’r fath i’r clwb. Os hoffai’r teulu gysylltu â ni byddwn yn ymchwilio i hyn ymhellach.”