Hoffai’r Scarlets fynegi ei siom wrth i gêm Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn RC Toulon ddim mynd yn ei flaen heddiw.
Yn dilyn canlyniad positif o brawf COVID-19 yr wythnos hon, mae’r Scarlets wedi cadw at holl weithdrefnau’r bencampwriaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r chwaraewr a wnaeth brofi’n positif, a’r nifer bach o chwaraewyr a chafodd eu nodi’n ‘gyswllt agos’ yn hunan ynysu ac yn dilyn canllawiau’r llywodraeth.
Aeth ein tîm meddygol trwy’r holl weithdrefnau’n drylwyr iawn, ac yna fe adolygwyd gan gorff annibynnol. Yn dilyn hynny, roedd EPCR yn hapus i’r gêm fynd yn ei blaen.
Cyrhaeddodd Toulon ym Mharc y Scarlets ar fore Dydd Gwener am sesiwn ymarfer. Yn ystod yr adeg hon, nad oedd unrhyw awgrym bod Toulon ddim eisiau chwarae’r gêm.
Roedd ein chwaraewyr ac ein tîm hyfforddi yn barod am gêm Ewropeaidd cyffroes ym Mharc y Scarlets.
Fe estynnwyd yr opsiwn i Toulon i aildrefnu’r gêm ar gyfer Dydd Sul yma, ac i ni ymgymryd â rownd ychwanegol o brofion Covid cyn y gêm.
Hoffwn ddiolch ein chwaraewyr ac ein holl staff am eu proffesiynoldeb.