Talodd Glenn Delaney teyrnged i gymeriad ei chwaraewyr gan gwblhau rownd derfynol y Guinness PRO14 ar nodyn uchel gyda gêm anhygoel yn erbyn Connacht.
Erbyn hanner amser roedd y Scarlets yn colli o 33-12, ond erbyn yr ail hanner fe lwyddodd y tîm droi’r gêm ar ei phen gan ennill 29 o bwyntiau a sgori pedair cais i orffen yr ymgyrch gyda buddugoliaeth holl bwysig i alluogi safle yng Nghwpan Pencampwyr y tymor nesaf.
Gan ofyn sut lwyddodd i droi’r gêm, dywedodd Delaney, “Gwnes i ychydig iawn, y bois yn y sied oedd i ddiolch, mae gennym arweiniant dda gan Steff Hughes ac fe arweiniodd y tîm yn berffaith heno ac roedd y pwysau ar eu hysgwyddau.
“I ni fethu neud llawer o’r eisteddle, roedd rhaid i ni chwilio am yr ateb ac fe wnaethon nhw. Gallwn fod yn falch iawn ohonyn nhw, gallwch weld eu sgiliau yn dangos a hyd yn oed tuag at y diwedd roedd y bois dal i ymdrechu’n galed er i’r fuddugoliaeth fod yn glir.”
Ychwanegodd Delaney: “Roedd hunaniaeth y bois arddangos heno yn yr ail hanner gan eu bod nhw’n bryderus yn yr hanner cyntaf, ac roedd llawer o bwysau arnyn nhw ac roedd hynny’n amlwg, y pwysau o beth oedd y gêm yma’n golygu ac i chwarae yn erbyn tîm oedd yn gymwys yn barod. Roedd rhai o’r camgymeriadau yn annodweddiadol ar ein rhan ni, a chredais fod Connacht wedi chwarae’n dda yn ystod yr hanner cyntaf.
“Mae heno wedi dangos beth rydym yn gallu cyflawni. Datrys, cymeriad a bod yn benderfynol oedd yn bwysig”
Mae’r fuddugoliaeth, ymysg llwyddiant Gleision Caerdydd yn erbyn Caeredin ym Mharc yr Arfau yn golygu mae’r Scarlets yn y trydydd safle yng Nghynhadledd B gan sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr y tymor nesaf.
“Dyna lle rydym am fod, mae’n gyrrhaeddiad enfawr i ni”, ychwanegodd Delaney.
Chwaraeom Caerfaddon oddi cartref yn gynharach yn y tymor, ac roedd hynny’n grêt a nawr rydym yn chwarae Sale sydd am fod yn gystadleuol iawn, maent yn dîm cryf felly rydym yn cadw llygad barcud. I ni methu aros.
“Mae’r bois rhyngwladol yn ôl wythnos hon a braf oedd gweld nhw’n cefnogi o’r eisteddle heno.”