Y prif hyfforddwr Dwayne Peel yn dangos dau newid i’w dîm i wynebu’r Stormwyr yn yr ail rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Stadiwm Danie Craven yn Stellenbosch ar Ddydd Sadwrn (3yp DU).
Carwyn Tuipulotu sydd yn cyfnewid gyda Ben Williams fel wythwr, wrth i’r chwaraewr ail reng Morgan Jones dod i mewn yn lle Sam Lousi, sydd wedi anafu.
Does dim newidiadau i’r olwyr o’r gêm diwethaf yn Loftus Versfeld yn erbyn y Vodacom Bulls gyda’r canolwr profiadol Jonathan Davies yn arwain yr ochr.
Johnny McNicholl, Tom Rogers a Ryan Conbeer sydd yn llenwi’r tri ôl, Joe Roberts fydd yn barner i Davies yng nghanol cae, wrth i Ioan Lloyd a Kieran Hardy parhau fel haneri.
Yn y rheng flaen mae Kemsley Mathias, Shaun Evans a Sam Wainwright; Alex Craig fydd yn ymuno â Jones fel clo, a Tuipulotu fydd wrth ochr Taine Plumtree a Dan Davis yn y rheng ôl.
Tri newid i’r fainc gyda’r prop pen tynn Harri O’Connor, y chwaraewr ail reng Jac Price a’r canolwr Eddie James wedi’u henwi yn y 23.
Wrth edrych ymlaen at y gêm, dywedodd Peel: “Mae her fawr arall o’n blaenau wrth chwarae yn erbyn tîm sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r tîm yn debyg iawn i’r Bulls mewn rhai agweddau wrth iddyn nhw dangos eu cryfderau yn gorfforol a chadw’r mantais. O safbwynt yr olwyr, mae’r tîm yn siarp iawn ar yr asgell, wrth eisiau lledu’r bel a throi’r bel drosodd. Bydd hyn yn her arall eto ar dir Dde Affrig. Mae rhaid gwella wythnos yma”.
Tîm Scarlets i wynebu’r DHL Stormers ar Ddydd Sadwrn, Hydref 28 (3yp DU)
15 Johnny McNIcholl; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Jonathan Davies (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Ioan Lloyd, 9 Kieran Hardy; 1 Kemsley Mathias, 2 Shaun Evans, 3 Sam Wainwright, 4 Alex Craig, 5 Morgan Jones, 6 Taine Plumtree, 7 Dan Davis, 8 Carwyn Tuipulotu.
Eilyddion: 16 Isaac Young, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Jac Price, 20 Ben Williams, 21 Archie Hughes, 22 Charlie Titcombe, 23 Eddie James..
Chwaraewyr sydd ddim ar gael
Sam Lousi, Ken Owens, Josh Macleod, Dan Jones, Steff Evans, Vaea Fifita, Ryan Elias, Gareth Davies, Sam Costelow, Johnny Williams.