Dau newid i dîm y Scarlets i wynebu’r Teirw

GwenanFeatured

Bydd y Scarlets yn herio’r Vodacom Bulls ym Mharc y Scarlets ar nos Wener (19:35), gan ddangos dau newid i’r ochr a enillodd yn erbyn Caerdydd penwythnos diwethaf.

Y bachwr rhyngwladol Ryan Elias sydd yn cyfnewid gyda Marnus van der Merwe, wrth i Max Douglas sydd wedi gwella o salwch a orfododd i dynnu mas o’r gêm ym Mharc yr Arfau.

Douglas sydd wedi’i enwi fel blaenasgellwr ochr dywyll ar gyfer y bumed rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig gyda’r capten Josh Macleod yn newid i’w hoff safle ar yr ochr agored.

Mae’r tri ôl yn parhau gydag Ioan Nicholas, Tom Rogers a Blair Murray. Eddie James a Johnny Williams sydd yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol cae gydag Ioan Lloyd a Gareth Davies – sydd wedi’i enwi prif sgoriwr y bencampwriaeth mor belled y tymor yma – yn cyfuno fel ein haneri.

Yn y rheng flaen, mae Elias yn ymuno â Kemsley Mathias a Henry Thomas; Alex Craig a Sam Lousi sydd yn cydweithio yn yr ail reng a Plumtree sydd yn cychwyn eto fel ein hwythwr wrth ochr Douglas a Macleod yn y rheng ôl.

Bydd Jac Price yn gwneud ei 50fed ymddangosiad i’r Scarlets os yw’n dod oddi’r fainc.

Dywedodd hyfforddwr y blaenwyr Albert van den Berg: “Mae gan y Bulls tîm arbennig, gyda sawl Springbok. Maent yn gorfforol iawn, yn sgrymio’n dda, ac yn gallu gwrthymosod yn dda. Rwy’n nabod Jake (White) yn dda, wrth i mi chwarae o dan ei arweiniant. Bydd Jake yn gallu paratoi’r bois yn dda, fe ddywedodd wrth y wasg mae dyma’r flwyddyn iddyn nhw berfformio, bydd ganddyn nhw’r meddylfryd cywir. Ond byddwn yn barod amdanyn nhw, i ni’n hoffi gwynebu timau mawr a chwaraewyr mawr, bydd y bois yn barod i wynebu nhw.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Vodacom Bulls ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Hydref 18 (7.35pm BBC Wales)

15 Ioan Nicholas; 14 Tom Rogers, 13 Johnny Williams, 12 Eddie James, 11 Blair Murray; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Max Douglas, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe. 17 Alec Hepburn, 18 Sam Wainwright, 19 Jac Price, 20 Dan Davis, 21 Efan Jones, 22 Sam Costelow, 23 Macs Page.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Tomi Lewis, Joe Roberts, Steff Evans, Harri O’Connor, Shaun Evans, Archie Hughes, Vaea Fifita, Isaac Young.