Dau o’r Scarlets wedi eu henwi yng ngharfan dan 18 Cymru ar gyfer cyfres y De Affrig

Kieran LewisNewyddion

Mae Luke Davies a Rhodri King wedi eu henwi yng ngharfan dan 18 Cymru a fydd yn teithio i Dde Affrica’r penwythnos hwn ar gyfer cyfres ryngwladol.

Mae’r mewnwr a’r bachwr yn rhan o garfan gref o 26 chwaraewr a fydd yn herio Ysgolion De Affrica, Ysgolion De Affrica A a Ffrainc dan 18.

Ers 2012, mae goreuon ifanc Cymru wedi teithio i Stellenbosch i ymuno â thimau o Ysgolion De Affrica, Lloegr a Ffrainc ar gyfer twrnamaint trionglog a brofodd yn fagwrfa i nifer o ddarpar chwaraewyr rhyngwladol.

Yn rhan o garfan hyfforddi gyfredol Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd y mae sawl chwaraewr o’r saith taith haf blaenorol i Dde Affrica – Josh Adams (2013), Hallam Amos (2012), Adam Beard (2013), Leon Brown (2015), Rhys Carre (2016), Elliot Dee (2012), Ryan Elias (2013), Steff Evans (2013), Dillon Lewis, Nicky Smith (2012), Owen Watkin (2014) a Tomos Williams (2013).

Mae’r newid yn yr amrediad oedran yn golygu bydd y tîm hwn yn iau na nifer o’r timau blaenorol a’r unig chwaraewyr i ddychwelyd ar ôl taith 2018, wedi i Gymru golli gornest a hanner yn erbyn Ysgolion De Affrica o 43-40 cyn curo Lloegr 26-20, yw Archie Griffin y prop o Academi Caerfaddon a chanolwr y dreigiau, Morgan Richards.

Mae Griffin yn un o nifer o chwaraewyr yr Exiles yn y garfan gref o 26 chwaraewr sydd hefyd yn cynnwys y cefnwr o Ysgol Millfield Dan John, mab i gyn-fewnwr Cymru, Paul John. Yn edrych i ennill ei gap cyntaf yn y grŵp oedran hwn yw’r maswr Ben Burnell, gyda’i dad Justin Burnell yn gyn-brif hyfforddwr Cymru dan 19 a bellach yn gyfarwyddwr rygbi ym Mhontypridd.

“Mae newid wedi bod yn y system dosbarth oedran. Gyda phob gwlad yn symud i Ionawr y 1af, o Fedi’r 1af, fel dyddiad ysgol academaidd roedd yn golygu mai ond un gêm y byddem yn cael ar lefel dan 18,” dywedodd Horsman.

“Felly ry’n ni wedi penderfynu dilyn y calendr rhyngwladol. Dyna pam ry’n ni wedi cyflwyno’r tîm dan 19 i gynnig cyfle arall i chwaraewyr chwarae rygbi rhyngwladol.

“Gweithiodd yn dda iawn inni dymor diwethaf gyda’r gemau dan 19 yn erbyn Japan a Lloegr. Mae’r grŵp hwn sy’n teithio i Dde Affrica yn fwy o dîm dan 17.

“Yn y gorffennol, mae’r grwpiau wedi bod tua 6-8 mis yn hŷn ac mae nifer o’r grŵp presennol yn eu blwyddyn gyntaf yn y Chweched Dosbarth. Mae’n grŵp iau, ond yn grŵp hynod dalentog.

“Un o gryfderau ein llwybr perfformiad yw ein bod yn cyd-weithio’n dda trwy gydol y cyfnod. Mae hyfforddwyr y timau dan 18, 19 ac 20 yn eistedd wrth yr un ddesg, lle mewn gwledydd eraill, dim ond adeg twrnamaint maent yn cwrdd.

“Pan edrychwch ar ein canlyniadau a pherfformiadau ar lefelau gradd oedran, ynghyd â’r nifer o chwaraewyr sy’n llwyddo wrth symud i rygbi rhanbarthol ac uwch dimau rhyngwladol, ry’n ni’n gwneud yn weddol dda.

“Ond fel gyda phopeth, gallwn wella. Dyna pam ry’n ni wastad yn herio’r hyn rydym yn gwneud er mwyn cyrraedd gwir safon byd-eang.”

Bydd y gic gyntaf yn erbyn Ysgolion De Affrica ar y 9fed o Awst a phedwar diwrnod yn ddiweddaraf, Ysgolion De Affrica A bydd y gwrthwynebwyr. Bydd y daith yn dod i derfyn gyda gem yn erbyn Ffrainc ar y 17eg o Awst.

Carfan dan 18 Cymru 

Full Backs: Dan John (Exiles), Jake Morgan (Dreigiau)

Wings: Carrick McDonough (Dreigiau), Jake Thomas (Gleision Caerdydd)

Centres: Morgan Richards (Dreigiau), Mason Grady (Gleision Caerdydd), Joe Hawkins (Gweilch), Bradley Roderick (Gweilch)

Outside halves: Ben Burnell (Gleision Caerdydd), Tom Matthews (Northampton)

Scrum halves: Luke Davies (Scarlets), Ethan Lloyd (Gleision Caerdydd)

Props: Theo Bevacqua (Harlequins), Archie Griffin (Caerfaddon), Lewys Jones (Gweilch), Kieran Stevens (Gweilch)

Hookers: Oliver Burrows (Ospreys), Rhodri King (Scarlets)

Second rows: Ben Carter (Dreigiau), James Fender (Gweilch), Rhys Thomas (Gwieilch), Christ Tshiunza (Caerwysg)

Back-rowers: Ollie Howard (Dreigau), Travis Huntley (Gweilch), Alex Mann (Gleision Caerdydd), Peter Vickers (Wasps)

Gemau Cyfres Rhyngwladol dan 18 (holl amseroedd BST)

Friday 9 August 2019 – Paul Roos Gymnasium, Stellenbosch

12:00 Ysgolion De Affrica A vs FraincU18

13:30 Lloegr U18 vs Yr Ariannin U18

15:00 Ysgolion De Affrica vs Cymru U18

Tuesday 13 August 2019 – Paarl Gymnasium, Paarl

12:00 Ysgolion De Affrica A vs Cymru U18

13:30 Ysgolion De Affrica vs Yr Ariannin U18

15:00 Lloegr U18 vs Frainc U18

Saturday 17 August 2019 – Hugenote High, Wellington

11:00 Ysgolion De Affrica A vs Yr Ariabnin U18

12:30 Ffrainc U18 vs Cymru U18

14:00 Ysgolion De Affrica vs Lloegr U18