Davies i chwarae ei 150fed gêm

Menna IsaacNewyddion

Fe fydd y canolwr Jonathan Davies yn chwarae ei 150fed gêm i’r rhanbarth nos Wener wrth iddo ddechrau yng nghanol cae yn erbyn Ulster yn y Cwpan Pencampwyr Heineken.

Daw’r carreg filltir hanesyddol i’r gwr 30-mlwydd-oed ar ôl iddo chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth fel eilydd yn erbyn Northampton Saints mewn gêm gyfeillgar nôl yn 2006. Mae wedi sgori 45 cais yn ei un-ar-ddeg tymor gyda’r rhanbarth.

Mae Davies yn croesawu ei gyd-chwaraewyr rhyngwladol Hadleigh Parkes i ganol cae gyda’i bartner o wythnos diwethaf, Kieron Fonotia, yn absennol oherwydd anaf i gyhyr yn ei goes.

Mae gweddill yr olwyr yn parhau fel ag yr oedden nhw ar gyfer gêm wythnos diwethaf yn erbyn Ulster ym Mharc y Scarlets.

Daw’r prop penrhydd rhyngwladol Wyn Jones i’r reng flaen ochr yn ochr â Ken Owens a Samson Lee gyda Rob Evans yn gorffwyso wedi anafu ei bigwrn yn y golled penwythnos diwethaf.

Ar nodyn positif o ran anafiadau daw Jake Ball yn ôl o’i gyfergyd i bartneri David Bulbring yn yr ail reng.

Mae Lewis Rawlins hefyd wedi gwella o’i gyfergyd wythnos diwethaf ac mae e’n ymuno â Will Boyde ac Uzair Cassiem yn y reng ôl wrth i anafiadau daro’r blaenwyr rhydd. Anafodd James Davies bys ei droed wythnos diwethaf ac mae Ed Kennedy, Aaron Shingler a Josh Macleod yn dal i fod yn dioddef o anafiadau.

Enwi dau eilydd ail reng y gwna Wayne Pivac, gyda Tom Price a Josh Helps ar y fainc, oherwydd yr absenoldebau i’r chwaraewyr reng ôl.

Fe fydd Price yn chwarae ei 50fed gêm i’r rhanbarth nos Wener ar ôl ymuno nôl yn 2015.

Mae’r golled i Ulster nos Wener diwethaf yn golygu bod ymgyrch Ewropeaidd y rhanbarth mwy neu lai ar ben am y tymor hwn ond mae Pivac yn credu bod sicrhau perfformiad yn Belfast nos Wener yn holl bwysig er mwyn codi momentwm cyn y gemau darbi sydd ar y gorwel.

Dywedodd; “Ry’n ni’n cymryd yn gwaith o ddifri ond mae un ffaith yn parhau, mae gyda ni lot o anafiadau. Dy’n ni ddim yr un tîm a’r tymor diwethaf.

“Ry’n ni’n edrych ar bob peth y gallwn ni ei wneud i wella ein perfformiadau o wythnos i wythnos. Dy’n ni ddim wedi chwarae mor dda ac ry’n ni’n gallu ar adegau.

“Fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ail ffocysu ein egni. Mae’r gêm yma’n holl bwysig yn nhermau perfformiad i’n rhoi ni yn ôl ar y trywydd cywir cyn y gemau darbi dros yr wyl.”

Tîm y Scarlets i wynebu Ulster yn Stadiwm Kingspan yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, Gwener 14eg Rhagfyr, cic gyntaf 19:45;

15 Johnny McNicholl, 14 Tom Prydie, 13 Jonathan Davies, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 David Bulbring, 6 Lewis Rawlins, 7 Will Boyde, 8 Uzair Cassiem

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 Tom Price, 20 Josh Helps, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Dan Jones, 23 Paul Asquith